Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Ymgyrch Elstree yn cynnwys mwy o batrolau a, lle y bo'n briodol, bwerau gwasgaru mewn lleoliadau allweddol, gan gynnwys Bae Caerdydd, Penarth ac Ynys y Barri, yn ogystal â'r Arfordir Treftadaeth rhwng Trwyn y Rhws ac Aberogwr.
Bydd yr ymgyrch ar waith yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf.
Caiff swyddogion yn y gymdogaeth leol eu cefnogi gan gydweithwyr ym mhob rhan o Heddlu De Cymru, gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, Swyddogion ymateb, Gwasanaethau Cymorth Gweithredol a'r Gwnstabliaeth Wirfoddol, ynghyd ag amrywiaeth o gydweithwyr o'n hasiantaethau partner.
Byddant yn gweithio fel tîm i atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan sicrhau y gall preswylwyr ac ymwelwyr sy'n dilyn y gyfraith fwynhau'r ardaloedd arfordirol hyn mewn heddwch.
Yn ystod penwythnos cyntaf #OpElstree, gorchmynnwyd pedwar dyn meddw o Bont-y-pŵl i adael Aberogwr oherwydd eu hymddygiad gwrthgymdeithasol, a byddant yn cael llythyr rhybuddio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol cam 1.
Yn ystod yr ail benwythnos – penwythnos Gŵyl y Banc – ymatebodd swyddogion i adroddiadau am grŵp o bobl ifanc yn ymddwyn mewn ffordd afreolus wrth symud rhwng The Knap a Pharc Romilly yn y Barri.
Atafaelwyd alcohol a chynhaliwyd sawl achos o stopio a chwilio ymhlith y grŵp o 60 o bobl ifanc, ac anfonwyd nifer o lythyrau rhybuddio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol cam 1 o ganlyniad.
Ar ôl i'r bobl ifanc wasgaru, cynhaliodd y swyddogion chwiliad cyflym o Barc Romilly a daethpwyd hyd i fagiau o bowdr gwyn, yr amheuir eu bod yn gyffuriau Dosbarth A, wedi'u cuddio mewn llwyn.
Gerllaw, arestiwyd dyn am ddwyn ffôn symudol oddi wrth fachgen 14 oed ar y Stryd Fawr. Defnyddiodd swyddogion #OpElstree ap olrhain i ddod o hyd i'r iPhone a gafodd ei ddwyn oddi wrth y bachgen. Cyhuddwyd Joshua Smith, 20 oed, o'r Barri o ddwyn a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar 20 Mai.
Ym Mhenarth, Aberogwr ac Ynys y Barri, lle parhaodd patrolau amlwg iawn dros benwythnos Gŵyl y Banc, roedd mwy o newyddion da – sef na chafwyd unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol nac anhrefn.
Dywedodd y Prif Arolygydd Bella Rees: "Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n ymweld â'n hardaloedd arfordirol hyfryd yn ymddwyn yn briodol ac yn unol â'r rheoliadau.
"Ond ni fyddwn yn goddef ymddygiad y nifer bach o bobl sy'n yfed gormod o alcohol, yn taflu sbwriel ac yn amharu ar allu dinasyddion sy'n parchu'r gyfraith i fwynhau eu hunain mewn heddwch.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yn cael effaith niweidiol ar ein cymunedau, a byddwn yn parhau i fynd ar batrôl mewn ardaloedd allweddol er mwyn atal hynny."
Gellir rhoi sicrwydd i'r sawl a fydd yn ymweld â'r ardaloedd arfordirol hyn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf y bydd pwerau gwasgaru Adran 35 ar waith i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, lle bo hynny'n briodol.
Mae'r pwerau hyn yn rhoi'r pŵer i swyddogion wasgaru grwpiau neu unigolion os byddant yn ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol.
Dilynwch ni ar Twitter @swpValeofGlamorgan ac @swpCardiff
#YmgyrchElstree #OpElstree #CadwBroMorgannwgYnDdiogel #CadwCaerdyddYnDdiogel