Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:48 11/04/2021
Mae heddiw (dydd Sul, Ebrill 11 2021) nodi 11 mlynedd ers llofruddiaeth Aamir Siddiqi yng Nghaerdydd.
Cafodd Aamir ei lofruddio'n greulon yng nghartref ei deulu yn y Rhath brynhawn dydd Sul, 11 Ebrill 2010, wrth iddo aros am ei athro Corân, ac yntau ond 17 mlwydd oed.
Mae'r heddlu yn parhau i chwilio am un dyn, un o'r bobl y mae'r heddlu fwyaf awyddus i'w dal yng Nghymru, mewn cysylltiad â llofruddiaeth Mohammed Ali Ege, o ardal Glan yr Afon, Caerdydd.
Gwnaeth Ege ffoi i India cyn i'r heddlu allu ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Aamir.
Cafodd ei arestio yn India yn 2013, ond yn 2017, wrth aros i gael ei estraddodi, gwnaeth ddianc o'r ddalfa yn India.
Pedair blynedd yn ddiweddarach, mae ei leoliad presennol yn dal i fod yn anhysbys.
Mae ditectifs sy'n arwain yr ymdrech i'w ddal wedi rhyddhau lluniau newydd o Ege a dynnwyd ar ôl iddo gael ei arestio yn India yn 2013 yn y gobaith y bydd unrhyw un sydd wedi'i weld yn ddiweddar yn rhoi gwybod i'r heddlu. Gallai'r lluniau newydd hyn fod yn hollbwysig wrth geisio dod o hyd i Ege.
Rydym yn parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac asiantaethau gorfodi'r gyfraith rhyngwladol i ddod o hyd iddo a'i estraddodi i'r DU.
Mae dau ddyn arall a gafwyd yn euog o lofruddiaeth Aamir yn parhau i fwrw dedfrydau oes yn y carchar.
Mae swyddogion cyswllt â theuluoedd arbenigol yn parhau i gefnogi a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Aamir.
Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Mohammed Ali Ege i gysylltu â ni.
Allwch chi helpu? Gallwch roi gwybodaeth drwy:
Porth Cyhoeddus Digwyddiadau Mawr: Porth Cyhoeddus (mipp.police.uk)
Ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 1700150924
Ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.