Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:12 20/04/2021
Mae Michael Whilding, 65 oed, a fu'n gyfrifol am dreisio plentyn a'i gam-drin yn rhywiol dros gyfnod o wyth mlynedd, wedi cael ei ddedfrydu i 16 mlynedd yn y carchar.
Cafodd Whilding, o Sain Tathan, ei ddyfarnu'n euog o 35 o achosion, gan gynnwys dau achos o drais, dau achos o ymgais i dreisio, ymosodiad anweddus ac anwedduster â phlentyn, yn dilyn treial a gynhaliwyd ym mis Mawrth.
Roedd wedi gwadu pob honiad.
Cafwyd datganiad dioddefwr gan un o'r unigolion a dargedwyd gan Whilding, gan ddisgrifio ei phrofiad.
"Mae'r gamdriniaeth a ddioddefais ganddo wedi effeithio ar bob agwedd ar fy mywyd, yn bennaf fy iechyd meddwl a'm hyder.
"Fe ddygodd bopeth oddi arnaf: dygodd fy mhlentyndod, dygodd fy hyder, gwnaeth i mi deimlo'n frwnt ac yn ddiwerth.
"Rwy'n cofio dymuno bod yn ddigon ddewr i gerdded o flaen bws neu lori er mwyn rhoi terfyn ar y peth. Roeddwn am i'm bywyd ddod i ben er mwyn gwneud yr holl boen a'r ofn ddod i ben, ac er mwyn gwneud iddo roi'r gorau i'r hyn roedd yn ei wneud i mi."
Ddydd Llun, 12 Ebrill cafodd Whilding ei ddedfrydu gan Lys y Goron Casnewydd i 16 mlynedd yn y carchar.
Mae'n rhaid iddo aros yn y carchar am o leiaf ddwy ran o dair o'i ddedfryd cyn iddo allu cael ei atgyfeirio at fwrdd parôl i ystyried ei ryddhau.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Julie Lewis: “Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
“Mae'r ddau ddioddefwr wedi dangos cryfder a dewrder wrth roi gwybod am y troseddau hyn a rhoi tystiolaeth yn y treial. Maent wedi bod yn ysbrydoledig.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ffaith bod Michael Whilding wedi cael ei ddedfrydu i garchar am amser sylweddol yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl iddynt, ac ymdeimlad bod cyfiawnder wedi ennill y dydd.
“Mae cymorth ar gael i bob dioddefwr trais rhywiol, a byddem yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.”