Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:31 27/04/2021
Mae'r gyfraith ar arfau tanio hynafol yn newid. Ers 22 Mawrth 2021 ni fydd rhai arfau tanio a oedd yn cael eu hystyried yn hynafol yn y gorffennol, ac felly wedi'u heithrio rhag cael eu rheoli, yn gymwys mwyach ac mae'n rhaid cael trwydded ar eu cyfer bellach. Mae'n rhaid i berchnogion yr arfau tanio hyn weithredu erbyn hanner nos ar 21 Medi 2021 i'w trwyddedu neu gael gwared arnynt yn gyfreithlon.
Mae Adran 58 o Ddeddf Arfau Tanio 1968 a Rheoliadau Arfau Tanio Hynafol 2021 yn nodi yn gyfreithiol pa arfau tanio y gellir eu hystyried yn rhai hynafol, ac felly wedi'u heithrio rhag trwyddedu.
Yn dilyn eu defnydd mewn troseddau, bydd angen trwyddedu saith cetrisen bellach nad oedd angen eu trwyddedu yn flaenorol o dan y gyfraith sydd wedi newid. Y cetris hyn yw:
Bydd cyfnod pontio tan 23:59 ar 21 Medi 2021, ac yn ystod y cyfnod hwn gall perchnogion arfau tanio o'r fath benderfynu beth y maent am ei wneud â nhw.
Os ydych yn berchen ar unrhyw un o'r arfau tanio a amlinellwyd, neu yn adnabod rhywun sy'n berchen ar unrhyw un ohonynt, ewch i Wefan Llywodraeth y DU i gael rhagor o wybodaeth am beth i'w wneud nesaf.