Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu cerddwr a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad â bws yn y Porth ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 20) wedi talu teyrnged iddo.
Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys ac aelodau o'r cyhoedd, bu farw Wayne Martin yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ar Porth Road tua 11.10am.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd teulu'r dyn 77 oed:
“Bu Wayne yn byw yn Nhrehafod drwy gydol ei oes.
“Bu'n gweithio yn ffatri Hoover am y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith, hyd nes iddo ymddeol. Roedd yn aelod o glybiau Wayne Morgan a'r Lleng Prydeinig yn ardal Trehafod.
“Roedd yn hoff iawn o rygbi ac roedd yn gefnogwr brwd o Glwb Rygbi Pontypridd cyn cyfyngiadau symud COVID-19.
“Roedd wrth ei fodd yn mynd ar wyliau a cherddoriaeth y 60au a'r 70au oedd yn mynd â'i fryd.
“Roedd yn aelod uchel ei barch o ardal Trehafod, ac roedd i'w weld yn aml yn cerdded gyda'i droli siopa. Bydd ei deulu a'i holl ffrindiau yn gweld eisiau yn fawr.
“Fel teulu, hoffem ddiolch i'r cyhoedd a'r gwasanaethau bryd a fu'n ei helpu.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu'r eiliadau yn arwain ato, neu unrhyw un â fideo dashfwrdd, fideo ffôn symudol neu fideo CCTV a allai helpu yn yr ymchwiliad gysylltu â'r heddlu gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2100136623.
I gysylltu â ni:
- ewch i https://bit.ly/SWPProvideInfo
- Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
- E-bostiwch: [email protected]
- Ffoniwch: 101