Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:50 23/04/2021
Dechreuodd Dirprwy Brif Gwnstabl newydd Heddlu De Cymru, Rachel Bacon, yn ei rôl newydd yr wythnos hon (Dydd Llun 19 Ebrill).
Cafodd penodiad Mrs Bacon ei gadarnhau fis diwethaf a daw i Heddlu De Cymru o Heddlu Northumbria, lle roedd yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol â chyfrifoldeb am Gyfiawnder Troseddol, trosedd, diogelu a'r Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol.
Dechreuodd DCC Bacon ei gyrfa gyda Heddlu Sussex yn 1995 cyn symud i Northumberland yn 2017.
Ar ei diwrnod cyntaf yn ei rôl newydd, dywedodd DCC Bacon:
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi'r Prif Gwnstabl fel ei Ddirprwy, a gwasanaethu cymunedau De Cymru.
"Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael y cyfle hwn wrth i ni fynd ati i ateb heriau'r dyfodol ac edrychaf ymlaen at ddod i adnabod swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu De Cymru."
Wrth groesawu DCC Bacon i Heddlu De Cymru, dywedodd y Prif Gwnstabl, Jeremy Vaughan:
"Hoffwn groesawu Rachel i Heddlu De Cymru.
"Fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol profiadol yn Heddlu Northumbria, sydd hefyd yn arwain Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion yn genedlaethol ar iechyd meddwl, rwy'n hyderus y bydd Rachel yn sicrhau bod Heddlu De Cymru yn parhau i ymdrechu i ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau yn y ffordd orau bosibl.
"Rwy'n siŵr y bydd, dros yr wythnosau nesaf, yn achub ar y cyfle i fynd ar hyd a lled ardal yr heddlu, a chyfarfod â chynifer o aelodau o dîm Heddlu De Cymru â phosibl."