Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd tua 120 o bobl ddirwyon dros benwythnos gŵyl y banc wrth i leiafrif o bobl barhau i dorri'r rheolau gyda phartïon mewn tai ac achosion eraill o dorri rheoliadau'r coronafeirws.
Er bod y rheoliadau wedi'u llacio yn ddiweddar, a bod caniatâd bellach i bobl aros mewn llety gwyliau hunangynhwysol, teithio unrhyw le yng Nghymru, a chwrdd â hyd at chwe unigolyn o ddwy aelwyd, gwelwyd bod lleiafrif o bobl yn torri'r rheoliadau o hyd.
Roedd llawer o'r hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer torri rheoliadau'r coronafeirws ar gyfer partïon mewn tai a chynulliadau, gan gynnwys:
10 o bobl yn Butetown, Caerdydd
Wyth unigolyn i gyd o aelwydydd gwahanol, yn ymgynnull mewn gardd yn Sandfields, Castell-nedd Port Talbot
10 o bobl ym Mae Caerdydd
Saith unigolyn am fynd i barti pen-blwydd ym Mhontardawe, Castell-nedd Port Talbot
20 o bobl mewn cynulliad ar raddfa fawr yn ardal Cathays, Caerdydd
Aeth swyddogion i gyfeiriad yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, ar ôl cael adroddiadau am 30 o bobl mewn parti. Fodd bynnag, ni wnaeth y rhai a oedd yn lletya adael y swyddogion i mewn i'r eiddo o wirfodd. Ar ôl gorfodi mynediad, gwnaeth nifer o bobl ymddwyn yn elyniaethus tuag at y swyddogion ac roedd yn amlwg bod achosion digywilydd o dorri'r rheoliadau. Cafodd un dyn ei arestio am rwystro swyddog a chyflwynwyd hysbysiadau cosb benodedig.
Bu cynnydd yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a grwpiau mawr yn ymgynnull yn Abertawe y penwythnos hwn hefyd, gan gynnwys adroddiad am 100 o bobl yn ymgasglu ym Mae Abertawe.
Mae gorchymyn gwasgaru Adran 35 ar waith yng Nghei'r Fôrforwyn, Bae Caerdydd o hyd, sy'n rhoi'r pŵer i swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu wahardd unigolyn o'r ardal.
Wrth i'r cyfyngiadau barhau i lacio ac wrth i'r tywydd gynhesu, rydym yn parhau i annog pobl i fod yn synhwyrol a pharchu'r rheoliadau. Maent ar waith i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.