Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:05 01/04/2021
Ar drothwy penwythnos y Pasg, hoffai'r swyddog sy'n arwain ymateb Heddlu De Cymru i'r coronafeirws annog y cyhoedd i bwyllo ac osgoi dadwneud popeth a gyflawnwyd hyd yma.
Er bod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar deithio wedi cael eu llacio, gan alluogi pobl yng Nghymru i deithio ledled y wlad, mae'r Prif Uwch-arolygydd Andy Valentine yn awyddus i atgoffa'r cyhoedd mai pwyll piau hi dros y penwythnos.
Dywedodd:
"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb, ac mae'n siŵr ein bod ni i gyd yn falch o weld y tywydd yn gwella a chael y cyfle i'w fwynhau.
"Eto i gyd, mae COVID-19 yn beryglus o hyd. Mae'n dal i effeithio ar ein cymunedau ac, yn anffodus, mae cyfraddau heintio yn cynyddu mewn rhai rhannau o'r de.
"Gan fod llawer o gyfyngiadau wedi cael eu llacio bellach, rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb personol er mwyn atal trydedd don. Mae angen i bawb fod yn gall, gan gadw pellter cymdeithasol ac osgoi peryglu ein hunain ac eraill yn ddiangen.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yn cael effaith niweidiol ar ein cymunedau a byddwn yn cadw llygad ar ardaloedd allweddol dros y diwrnodau nesaf er mwyn atal hynny.
"Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n mynd i lecynnau prydferth yn gwneud hynny yn unol â'r rheoliadau, ac nid ein gwaith ni yw monitro niferoedd ac atal y rheini sy'n mynd yno yn unol â'r gyfraith rhag mwynhau eu hunain. Ein gwaith ni yw diogelu'r cyhoedd.
"Bydd ein swyddogion yn parhau i ymgysylltu â'n cymunedau er mwyn eu helpu i ddeall y cyfyngiadau sy'n dal i fod ar waith, ac ni wnawn ymddiheuro am gymryd camau gorfodi pan fydd lleiafrif hunanol yn torri'r rheolau.
"Byddwn yn gweithredu mewn ymateb i bartïon mewn tai ac achosion eraill o ddod ynghyd dan do, am eu bod yn cynyddu'r risg o ledaenu'r feirws.
"Er nad yw cwrdd yn yr awyr agored mor beryglus, byddem yn annog ein cymunedau i sicrhau eu bod yn gwybod y rheolau ac yn eu dilyn. Ni fyddwn yn derbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, trosedd nac anhrefn.
"Dros y diwrnodau diwethaf, rydym wedi gweld nifer bach o ddigwyddiadau pryderus lle mae lleiafrif bach wedi dangos gelyniaeth a thrais tuag at ein swyddogion sydd wedi gweithio mor galed yn ystod y pandemig i gadw pawb yn ddiogel.
"Nid yw ein swyddogion na'n staff yn dod i'r gwaith i gael eu trin fel hyn a hoffem bwysleisio y byddwn yn cymryd camau i ddelio â hyn.
"Does neb am weld cyfnod clo arall a bydd eich cefnogaeth yn sicrhau nad yw'r holl aberth dros y chwe mis diwethaf yn mynd yn ofer."