Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:16 28/04/2021
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd a'r sector gwirfoddol i gefnogi pobl sy'n agored i niwed ar ein strydoedd.
Rydym yn annog pobl sy'n agored i niwed i ymgysylltu â'r asiantaethau cymorth a'r gwasanaethau allgymorth niferus sydd ar gael yng Nghaerdydd.
Rydym yn poeni am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas, y mae rhai achosion yn gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau.
Gall ymddygiad o'r fath fod yn fygythiol, yn annymunol ac yn ddi-groeso i'r rhai sy'n gweithio yn yr ardal neu'n ymweld â hi.
Mae mynd i'r afael â'r materion hyn mewn ffordd gadarn yn flaenoriaeth ddyddiol o hyd i Dîm Plismona Canol y Ddinas.
Yn ogystal â swyddogion mewn lifrai ar batrôl yn y strydoedd, mae gennym hefyd dîm nad ydynt mewn lifrai sydd ar batrôl yn rheolaidd yng nghanol y ddinas i dargedu'r rhai hynny sy'n ceisio cyflawni troseddau.
Yn ogystal â'r patrolau dyddiol hyn, caiff y stryd ei monitro 24/7 gan weithredwyr CCTV.
Mae nifer o gyfyngiadau yn sgil y Coronafeirws ar waith o hyd, ac mae'n bwysig bod pobl yn cymryd cyfrifoldeb personol amdanynt ac yn eu dilyn, er mwyn sicrhau eu diogelwch eu hunain a diogelwch pobl eraill.