Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:13 28/04/2021
Yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o bobl ifanc yn defnyddio beiciau modur oddi ar y ffordd a beiciau cwad ar hyd Heol y Mwmbwls, bydd swyddogion lleol, ar y cyd ag unedau arbenigol, yn cynnal patrolau ychwanegol yn erbyn y defnydd anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol o'r beiciau hyn.
Bydd swyddogion, ynghyd ag unedau arbenigol, yn targedu'r unigolion cyfrifol, sy'n aml yn gyrru heb yswiriant na thrwydded yrru.
Dywedodd yr Arolygydd Andy Harris:
“Hoffwn roi sicrwydd i aelodau'r gymuned y byddwn yn cynnal mwy o batrolau ar hyd Heol y Mwmbwls er mwyn mynd i'r afael â phroblem pobl ifanc yn defnyddio beiciau oddi ar y ffordd.
“Mae gan swyddogion y pŵer i atafaelu unrhyw sgrialwr, beic neu feic cwad heb yswiriant sy'n cael ei ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus, a byddant yn mynd ati i geisio gwneud hynny. Gallwn atafaelu pob math o feic modur os yw'n cael ei ddefnyddio ar ffordd gyhoeddus ac os yw'r gyrrwr dan 16 oed, heb drwydded berthnasol, neu heb yswiriant neu heb dalu treth ffordd.
“Rydym yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod a achosir gan bobl sy'n defnyddio beiciau modur a beiciau cwad yn anghyfreithlon, ac yn ymwybodol o'r aflonyddwch y mae sŵn y beiciau'n ei beri i'r gymuned leol.
“Byddwn yn annog aelodau o'r cyhoedd i barhau i roi gwybod am unrhyw achosion o bobl yn defnyddio beiciau oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon. Byddai unrhyw ffotograffau a fideos o gerbydau oddi ar y ffordd a'r bobl sy'n eu defnyddio yn werthfawr iawn.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am bobl sy'n defnyddio beiciau modur oddi ar y ffordd neu feiciau cwad gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol.