Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymchwiliad ôl-ddigwyddiad yn dilyn protestiadau y tu allan i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd.
Ym mis Ionawr, cynhaliwyd protestiadau bedair noson yn olynol y tu allan i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd ar James Street.
Roedd y protestiadau mewn perthynas â marwolaeth Mohamud Hassan a oedd yn 24 oed.
Bu farw Mr Hassan mewn eiddo amlfeddiannaeth ar Heol Casnewydd yn y Rhath, toc wedi 10.30pm, ddydd Sadwrn, 9 Ionawr.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd y noson flaenorol.
Mae ei farwolaeth bellach yn destun ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn atgyfeiriad a wnaed ar unwaith gan Heddlu De Cymru.
Mae'r heddlu yn parhau i gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac yn darparu gwybodaeth a deunyddiau, gan gynnwys deunydd fideo camera a wisgir ar y corff a deunydd teledu cylch cyfyng.
Mae datganiad diweddaraf Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gael yma:
https://policeconduct.gov.uk/news/update-investigation-death-mohamud-mohamed-hassan-cardiff-0
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi’i chael ar y gymuned ehangach ac yn gwerthfawrogi bod pobl am i’w lleisiau gael eu clywed a’u bod am ddangos eu cefnogaeth i deulu a ffrindiau Mr Hassan.
Fel arfer, bydd gwasanaethau plismona yn gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu pobl sy'n arfer yr hawl honno i gael eu clywed yn gyfreithlon.
Ond mae'r coronafeirws yn parhau i fod yn glefyd angheuol ac mae cyfyngiadau ar waith er mwyn ei atal rhag lledaenu.
Yn ystod y protestiadau ym mis Ionawr, ceisiodd swyddogion ymgysylltu â’r rhai a oedd yn bresennol i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth gyfredol y Coronafeirws, gan gynnwys y gwaharddiad ar gwrdd â phobl y tu allan i’ch aelwyd a'r nod cyffredin, sef y dylai pawb gymryd cyfrifoldeb personol drwy ddilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru i aros gartref.
Mae gennym ddyletswydd i ystyried yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, ac mae Heddlu De Cymru wedi ceisio cynnal dull plismona cyson o ymgysylltu, esbonio ac annog, gan orfodi dim ond lle bo angen gwneud hynny pan fetho popeth arall, drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
Dilynwyd y dull hwn yn ystod y protestiadau ym Mae Caerdydd ar 12, 13, 14 a 15 Ionawr.
Rhoddwyd gwybod am un fenyw i'w gwysio am fynd yn groes i reoliadau COVID-19 ar ôl iddi drefnu digwyddiad awyr agored, sef protestiadau ym Mae Caerdydd ar ddwy o’r pedair noson, lle roedd dros 30 o bobl yn bresennol.
Rhoddwyd cyfle iddi naill ai dalu hysbysiad cosb benodedig o £500 neu ofyn am wrandawiad llys.
Cymerwyd y cam hwn er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig byd-eang hwn.
Yn ystod y protestiadau, cafwyd tystiolaeth glir o droseddau eraill, heb fod yn gysylltiedig â mynd yn groes i reoliadau COVID-19 ac mae ein hymchwiliad ôl-ddigwyddiad wedi canolbwyntio ar y troseddau mwy difrifol o'u plith.
Lle ceir tystiolaeth o anhrefn neu drais, ni waeth beth yw’r digwyddiad, byddwn bob amser yn mynd ar drywydd y rhai sy’n gyfrifol er mwyn cymryd camau priodol.
Mae ymholiadau i’r protestiadau wedi bod yn mynd rhagddynt ac mae tri unigolyn wedi cael eu harestio.
* Arestiwyd dyn 30 oed o’r Rhath am 10.40am ar 4 Mawrth ar amheuaeth o affráe. Honnir iddo daflu nifer o daflegrau at swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd. Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra gwneir ymholiadau pellach.
* Arestiwyd dyn 19 oed o Grangetown am 9.20am ar 5 Mawrth. Mae wedi cael ei gyhuddo o ymosod ar un o weithwyr y gwasanaethau brys a defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 23 Mawrth.
* Arestiwyd menyw 19 oed o Gasnewydd am 11am ar 5 Mawrth ar amheuaeth o ymosod ar un o weithwyr y gwasanaethau brys. Cyfaddefodd i’r drosedd, ymddiheurodd am ei hymddygiad a chafodd rybudd.