Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym mis Ionawr, cynhaliwyd pedair protest am bedair noson yn olynol y tu allan i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd ar James Street.
Roedd y protestiadau yn ymwneud â marwolaeth Mohamud Hassan, 24 oed.
Bu farw Mr Hassan mewn eiddo amlfeddiannaeth ar Heol Casnewydd, y Rhath, ychydig ar ôl 10.30pm ddydd Sadwrn, 9 Ionawr.
Roedd wedi cael ei gadw yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd y noson flaenorol.
Mae ei farwolaeth bellach yn destun ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dilyn atgyfeiriad di-oed gan Heddlu De Cymru.
Mae'r heddlu yn parhau i gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac wedi darparu gwybodaeth a deunyddiau, gan gynnwys deunydd fideo camera a wisgir ar y corff a deunydd teledu cylch cyfyng.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi'i chael ar y gymuned ehangach ac rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn awyddus i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a dangos cefnogaeth i deulu a ffrindiau Mr Hassan.
Yn ystod amseroedd arferol, bydd plismona yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod modd i bobl arfer yr hawl hwnnw i gael eu clywed.
Ond mae'r coronafeirws yn parhau i fod yn glefyd angheuol ac mae cyfyngiadau ar waith er mwyn ei atal rhag lledaenu.
Yn ystod y protestiadau ym mis Ionawr, roedd swyddogion wedi gweithio i ymgysylltu â'r rhai a oedd yn bresennol i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth gyfredol y Coronafeirws, gan gynnwys y gwaharddiad sy'n atal cwrdd â phobl nad ydynt yn aelodau o'ch aelwyd eich hun, a'r nod cyffredin y dylai pawb gymryd cyfrifoldeb personol drwy ddilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru i Aros Gartref.
Mae gennym ddyletswydd i ystyried yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, ac mae Heddlu De Cymru wedi ceisio cadw dull plismona cyson o ymgysylltu, esbonio ac annog, a gorfodi lle y bo angen os bydd popeth arall wedi methu, drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
Cynhaliwyd y dull gweithredu hwn yn ystod y protestiadau ym Mae Caerdydd ar 12, 13, 14 a 15 Ionawr.
Cyflwynwyd gwys i un fenyw am dorri rheoliadau COVID-19 drwy drefnu digwyddiad awyr agored, sef y protestiadau a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd ar ddwy o'r pedair noson, lle roedd mwy na 30 o bobl yn bresennol.
Rhoddwyd cyfle iddi naill ai i dalu cosb benodedig o £500 neu ofyn am wrandawiad llys.
Cymerwyd y cam hwn er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd yn ystod y pandemig byd-eang hwn.
Yn ystod y protestiadau, roedd tystiolaeth glir o droseddau eraill nad oeddent yn ymwneud â thorri rheoliadau COVID-19, ac mae ein hymchwiliad ar ôl y digwyddiad wedi canolbwyntio ar y troseddau mwyaf difrifol.
Os oes tystiolaeth o anrhefn neu drais, ni waeth beth yw'r digwyddiad, rydym bob amser yn ceisio erlyn y rheini sy'n gyfrifol er mwyn cymryd y camau priodol.
Mae ymholiadau i'r protestiadau yn parhau i fynd rhagddynt a hyd yma, mae 12 o unigolion wedi cael eu hadnabod.
O'r 12 hynny, mae wyth ohonynt wedi cael eu cyhuddo, eu gwysio, neu wedi cael hysbysiad cosb benodedig, neu ymdriniwyd â nhw drwy Ddatrysiadau y Tu Allan i'r Llys megis Cynllun Braenaru Gohirio Cyhuddiad neu atgyfeiriad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn delio â dau achos ar hyn o bryd ac rydym yn aros am benderfyniad ynghylch cyhuddo.
Mae proses gais drwy'r post yn mynd rhagddi ar gyfer un unigolyn.
Ni chymerwyd unrhyw gamau eraill mewn perthynas ag unigolyn arall.