Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw y bydd rhai o'r cyfyngiadau yng Nghymru yn llacio o yfory ymlaen, mae Heddlu De Cymru yn annog y cyhoedd i gymryd cyfrifoldeb personol dros eu gweithredoedd a pharhau i wneud y peth iawn.
Er na fydd gofyniad i aros gartref mwyach, anogir y cyhoedd i aros yn lleol er mwyn helpu i leihau lledaeniad COVID-19 a lleihau'r risg o don arall o'r haint.
O ddydd Sadwrn ymlaen, caiff pedwar person o ddwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat. Bydd rhai cyfleusterau chwaraeon awyr agored yn ailagor a bydd y rheolau sy'n ymwneud ag ymweliadau â chartrefi gofal yn cael eu llacio. Gweler cyhoeddiad Llywodraeth Cymru - https://llyw.cymru/aros-yn-lleol-cymru-yn-cymryd-y-camau-cyntaf-i-lacior-cyfyngiadau-symud
Bydd nifer o gyfyngiadau yn dal i fod ar waith, a bydd ein swyddogion a'r Timau Gorfodi ar y Cyd, sy'n gweithredu ym mhob un o'r saith ardal awdurdod lleol, yn parhau i fynd i'r afael ag achosion amlwg neu luosog o dorri'r cyfyngiadau sy'n peri risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, fel partïon mewn tai a chynulliadau mawr.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd, Andy Valentine:
“Gwn y bydd llawer o bobl yn croesawu'r newyddion am yr adolygiad o'r cyfyngiadau heddiw. Mae wedi bod yn flwyddyn heriol i ni i gyd ac rydyn ni i gyd am weld diwedd ar y cyfyngiadau sydd wedi cael cymaint o effaith ar ein bywydau.
“Ond fel y dywedodd y Prif Weinidog yn glir, mae COVID-19 yn dal i beri risg. Os collwn reolaeth ar y feirws, mae'n bosibl y bydd trydedd don o heintiau, yn enwedig gydag Amrywiolion sy’n Peri Pryder yn dod i'r amlwg.
“Gofynnaf i'r cyhoedd ymateb yn gyfrifol ac yn ofalus i'r newidiadau hyn i'r cyfyngiadau, a pheidio â bygwth dadwneud popeth a gyflawnwyd hyd yn hyn.
“Bydd ein swyddogion yn dal yn gweithio yn ein cymunedau, yn ymgysylltu â'r cyhoedd i sicrhau eu bod yn deall y newidiadau diweddaraf, ac yn eu hannog i wneud y peth iawn.
“Lle y bo angen, byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi a gweithio gyda'n partneriaid, yn enwedig yr awdurdodau lleol, i fynd i'r afael ag achosion bwriadol ac amlwg o dorri rheoliadau iechyd y cyhoedd.
“Fodd bynnag, wrth i'r cyfyngiadau lacio, bydd cyfrifoldeb personol yn bwysicach nag erioed wrth ddod â'r pandemig i ben.
“Mae plismona COVID-19 wedi bod ymhlith y gweithrediadau mwyaf heriol yn hanes yr heddlu, a hoffwn ddiolch am yr aberth a wnaed gan bobl drwy gydol y pandemig a diolch iddynt am gydymffurfio â'r cyfyngiadau.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod bwysig i bawb sy'n gwasanaethu yn Heddlu De Cymru ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny.
“Rydym yn dal i fod yn ymrwymedig i chwarae ein rhan er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel rhag y feirws hwn ac rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn parhau i'n helpu drwy ddilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru.”