Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu De Cymru yn cefnogi menter gan bortffolio Plismona Ymateb Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu i gydnabod a dathlu gwaith swyddogion ymateb yr heddlu, sy'n cael ei lansio heddiw (ddydd Llun 15 Mawrth).
Yn ystod yr wythnos weithredu hon, rhoddir pwyslais arbennig ar lesiant a gwneud yn siŵr bod swyddogion yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael iddynt a all helpu i fynd i'r afael â materion pwysig megis blinder a gwydnwch.
Mae Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu wedi gweithio gydag Oscar Kilo, Gwasanaeth Llesiant Cenedlaethol yr Heddlu, y Coleg Plismona a Ffederasiwn yr Heddlu i ddarparu amrywiaeth o fentrau llesiant a gwydnwch, wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer anghenion swyddogion ymateb. Bydd Heddlu De Cymru yn trefnu gweithgareddau'n lleol i gyd-fynd â'r rhain.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru Jeremy Vaughan:
“Swyddogion mewn timau ymateb yw asgwrn cefn y gwasanaeth plismona a ddarperir gennym i drigolion De Cymru. Nhw yn aml yw'r cyntaf i gyrraedd y safle pan fydd digwyddiadau, ac maent yn delio ag amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys sefyllfaoedd sy'n gymhleth ac weithiau'n wrthdrawiadol.
“Nid yw'r swyddogion byth yn gwybod pa sefyllfaoedd y byddant yn eu hwynebu wrth ddechrau ar eu sifftiau. Maent yn gwneud gwaith anhygoel bob dydd i gadw ein cymunedau'n ddiogel, ac am y rheswm hwnnw rwy'n arbennig o falch ohonynt a'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt.
“Nid oes unrhyw ddwy sifft yr un peth. Mae'r swyddogion yn y rolau hyn yn dod o sawl cefndir gwahanol, ond yn cydweithio fel tîm er mwyn helpu i gadw De Cymru'n ddiogel. Yr wythnos hon, byddwn y ceisio codi ymwybyddiaeth o'r maes plismona pwysig hwn a'r cyfraniad gwerthfawr a wneir gan ein swyddogion ymateb.”
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Serena Kennedy, arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu dros Blismona Ymateb:
“Nod yr wythnos gweithredu yw sicrhau y caiff swyddogion ymateb eu clywed a'u gwerthfawrogi, a'u bod yn gweld eu llwyddiannau yn y gweithle yn cael eu dathlu, yn gwybod bod eu llesiant yn bwysig ac yn deall sut a ble i ofyn am gymorth pan fydd ei angen arnynt.”
I grynhoi, dywedodd y Prif Gwnstabl Andy Rhodes, arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu dros Lesiant:
“Mae swyddogion ymateb yn gweithio mewn rolau sy'n hynod heriol, gan weld dynoliaeth ar ei gorau ac ar ei gwaethaf yn rheolaidd. Mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud yr hyn y gallwn i'w cefnogi.
“Mae'r swyddogion hyn wedi dweud wrthym, drwy arolygon cenedlaethol a thrwy eu heddluoedd eu hunain, bod gwydnwch a blinder yn creu problemau mawr iddynt. Rydym am iddynt wybod ein bod yma i'w helpu. Yn ystod yr wythnos weithredu hon, bydd amrywiaeth o adnoddau a grëwyd gan ystyried swyddogion ymateb yn benodol ar gael ledled y wlad.
“Mae'n bwysig gwybod nad digwyddiad untro yw hyn; rydym am ddefnyddio'r wythnos hon fel cyfle i roi gwybod i swyddogion bod cymorth ar gael iddynt hwy ac i'w heddluoedd, drwy gydol y flwyddyn.
“Mae llesiant swyddogion a staff yn flaenoriaeth i brif swyddog pob heddlu. Rydym bob amser yn gwrando, a bydd cymorth ar gael bob amser i'r rheini sydd ei angen.”