Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:47 29/03/2021
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i helynt ger Wentloog Avenue, Caerdydd, brynhawn dydd Sul, 21 Mawrth.
Mae trefniadau ynysu'r heddlu bellach wedi cael eu dileu, a hoffem ddiolch i'r gymuned leol am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u cydweithrediad.
Cafodd 13 o ddynion rhwng 16 a 52 oed eu harestio ar amheuaeth o anhrefn dreisgar, ymosodiad a meddu ar arfau ymosodol.
O'r 13 o ddynion:
* Mae pedwar ohonynt yn dod o Dde Cymru.
* Mae naw ohonynt yn dod o leoedd eraill yn y DU.
* Mae 11 ohonynt wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
* Ni chaiff camau pellach eu cymryd yn erbyn dau ddyn arall.
Cafodd swyddogion eu galw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ychydig ar ôl 4pm ddydd Sul, 21 Mawrth.
O'r tri dyn a gafodd eu hanafu yn ystod yr helynt, gwnaeth un ohonynt ddioddef anafiadau a allai newid ei fywyd.
Mae'n debyg bod y bobl a oedd yn rhan o'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd.
Cafodd nifer o arfau eu hatafaelu.
Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth, sy'n cynnwys nifer o heddluoedd eraill. Rydym yn rhagweld y caiff mwy o bobl eu harestio.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu ddeunydd fideo gan gynnwys deunydd fideo camera dashfwrdd, gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu cyfeirnod *098726.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom drwy Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101 neu'n ddienw drwy Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.