Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:05 09/03/2021
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod marwolaeth merch 16 oed yn dilyn digwyddiad yn Stryd Baglan, Treorci ddydd Gwener (5 Mawrth 2021) yn cael ei thrin fel llofruddiaeth, ac mae ymchwiliad yn cael ei arwain gan Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr yr heddlu.
Gall swyddogion hefyd gadarnhau mai Wenjing XU oedd y ferch a fu farw.
Mae ei theulu, sy'n cael cymorth gan swyddogion cyswllt teuluol sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi:
“Roedd Wenjing yn ferch addfwyn iawn, roedd yn berson tawel iawn. Roedd Wenjing yn helpu'r teulu cyfan, yn gweithio yn siop têcawê y teulu. Roedd yn mwyhau'r ysgol ac yn gweithio'n galed iawn. Roedd ei theulu yn ei charu.”
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis, yr Uwch-swyddog Ymchwilio: “Ar ôl cwblhau’r post mortem, rydym bellach yn gallu cadarnhau ein bod yn trin marwolaeth Wenjing fel Llofruddiaeth”.
Ychwanegodd: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sydd wedi achosi cryn ofid – rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Wenjing yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn. Gallaf roi sicrwydd i'r gymuned nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn ar hyn o bryd. Mae dyn 31 oed, yr oedd y dioddefwr yn ei adnabod, wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae dyn 38 oed hefyd wedi'i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad. Mae'r ddau yn cael eu trin yn yr ysbyty o ganlyniad i anafiadau a gafwyd yn ystod y digwyddiad. Rwy'n parhau i fod yn ddiolchgar am y cymorth rydym wedi ei gael gan y gymuned leol yn ystod ein hymholiadau.”
Gall tystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth ei chyflwyno gan ddefnyddio'r Porth Cyhoeddus Ymchwiliadau Mawr https://mipp.police.uk/operation/62SWP21B30-PO1
Fel arall, gallant gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu cofnodrif *077519.