Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:18 31/03/2021
Am tua 10pm nos Fawrth (Mawrth 30), ymyrrodd swyddogion mewn achos o anhrefn dreisgar ym Mae Caerdydd.
Cafodd dyn 21 oed a bachgen 16 oed eu harestio ar amheuaeth o droseddau trefn gyhoeddus ac maent wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ers hynny. Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo i adnabod unigolion eraill a oedd yn rhan o'r anhrefn.
Yn ystod yr helynt, cafodd nifer o daflegrau, gan gynnwys poteli, eu taflu at swyddogion. Dioddefodd tri ohonynt fân anafiadau.
Dywedodd Tony Williams, Prif Arolygydd Caerdydd a Bro Morgannwg:
"Roedd y mwyafrif helaeth o'r bobl a oedd yn mynychu llecynnau prydferth yn yr ardal nos Fawrth yn gwneud hynny yn unol â chyfyngiadau presennol COVID-19 ac yn parchu eraill a'r ardal roeddent yn ymweld â hi.
“Gwnaethom gynnal presenoldeb yr heddlu yn y lleoliadau hyn er mwyn atgoffa pobl o'u rhwymedigaethau o dan y cyfyngiadau presennol.
“Cafodd torfeydd eu gwasgaru ar adegau amrywiol drwy gydol y nos, ac am tua 10pm, roedd angen i swyddogion ymyrryd mewn achos o anhrefn dreisgar ym Mae Caerdydd.
“Cafodd ddau unigolyn eu harestio a roedd gan un o'r unigolion dan amheuaeth gyllell a gafodd ei hatafaelu.
“Roedd y trais a oedd wedi'i gyfeirio at swyddogion yn warthus ac ni chaiff ei oddef, ac ni fyddwn yn goddef yr ymddygiad gwrthgymdeithasol na'r troseddau a gyflawnwyd gan y lleiafrif nos Fawrth chwaith.
“Drwy gydol y pandemig rydym wedi gweithio'n agos â'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel a bydd y dull gweithredu hwnnw yn parhau dros y dyddiau nesaf ac wrth arwain at ŵyl y banc.
“Byddwn yn cynnal mwy o batrolau mewn ardaloedd allweddol, a byddwn yn parhau i gydgysylltu â'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru heddiw er mwyn ystyried mesurau i'w rhoi ar waith a fydd yn ein galluogi i ddiogelu ein cymunedau ymhellach.
“Rydym yn gwerthfawrogi bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd i bob un ohonom, ac o ganlyniad i'r trefniadau i lacio cyfyngiadau teithio a'r tywydd braf, rydym yn disgwyl i rai o'n llecynnau prydferth fod yn brysur.
“Fodd bynnag, baswn yn annog y cyhoedd i fod yn gall a pharhau i gefnogi'r cyfyngiadau sydd ar waith o hyd, er mwyn cadw pob un ohonom yn ddiogel.
“Gall y rheini sy'n torri'r rheoliadau neu'n ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac yn ymgymryd â throseddau ddisgwyl bod yn destun camau gweithredu."