Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn 84 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yng Ngorseinon, Abertawe, wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Gareth Evans, a oedd yn gyrru Honda Jazz arian, yn dilyn gwrthdrawiad â Jaguar XF du ar Ffordd Abertawe tua 11.15am ar 23 Chwefror.
Bu Mr Evans yn briod â'i wraig Maureen am 58 o flynyddoedd. Mae hi a'u mab, Kevin, wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd yn ŵr ac yn dad caredig a gofalgar, ac yn dad-cu balch iawn i Matthew.
“Bu'n gwasanaethu yn y fyddin, gan gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
“Roedd yn hoff iawn o chwaraeon. Roedd wedi gwasanaethu fel dyfarnwr gydag Undeb Rygbi Cymru, ac roedd wrth ei fod yn cefnogi tîm rygbi Cymru. Byddai wedi bod yn edrych i lawr arnom ac wrth ei fodd â chanlyniad y gêm ddydd Sadwrn.
“Roedd hefyd yn cefnogi'r Swans yn frwd, a hynny am fwy na 70 o flynyddoedd. Aeth i'r gêm gynderfynol yn 1964 ac i'r gêm honno yn Preston.
“Roedd wrth ei fodd pan aeth y Swans i fyny i'r uwch-gynghrair, ac mor falch bod y byd yn dod i wybod am y ddinas a'r wlad.
“Bydd colled fawr ar ei ôl, ac ni fydd neb byth yn cymryd ei le.”
Rydym yn parhau i apelio i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu â 101 gan ddyfynnu digwyddiad 2100063986.