Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae saith unigolyn a gafodd eu dyfarnu'n euog am eu rhan mewn achos angheuol o drywanu bachgen yn ei arddegau mewn porthladd cynwysyddion diwydiannol yn y Barri yn 2019 wedi cael eu dedfrydu heddiw i gyfanswm o 119 o flynyddoedd yn y carchar.
Yn gynharach y mis hwn, daeth rheithgor i'r casgliad bod Peter McCarthy, Leon Clifford, Leon Symons a bachgen 17 oed – a all bellach gael ei enwi fel Brandon Liversidge ar ôl i'r barnwr godi cyfyngiadau adrodd a oedd sicrhau ei fod yn ddienw – yn euog o lofruddio Harry Baker, a oedd yn 17 oed, yn dilyn anghydfod dros gyffuriau.
Cafodd Lewis Evans, Ryan Palmer a Raymond Thompson eu dyfarnu'n euog o ddynladdiad.
Wrth ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd heddiw (dydd Llun, Mawrth 29), dywedodd y Barnwr Justice Picken: “Nid oedd [Harry Baker] yn haeddu marw ac mae ei farwolaeth yr un mor drasig a diangen ag unrhyw unigolyn sy'n cael ei lofruddio, ac rwyf am wneud hynny'n gwbl glir.”
Rhoddodd y dedfrydau canlynol:
Ar ôl y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Cwnstabl Bethan Watkins:
“Roedd hwn yn achos hir a chymhleth gyda nifer o ddiffynyddion, ac rwy'n ddiolchgar i'r rheithgor am y diwydrwydd a'r ymrwymiad y gwnaethant eu dangos drwy gydol yr achos ac am roi dyfarniadau sy'n rhoi cyfiawnder i Harry ac aelodau ei deulu, sydd wedi cael ergyd drom yn sgil y digwyddiad.
“Ni fydd unrhyw ddedfryd yn ddigon hir iddynt; cafodd dyfodol Harry a chyfle iddo newid ei fywyd eu dwyn oddi wrtho, ac mae ei deulu a'i ffrindiau wedi colli mab, brawd a ffrind hoffus.
“Maent wedi dangos cryfder ac urddas aruthrol drwy gydol yr ymchwiliad a'r achos llys dilynol ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad iddynt o hyd wrth iddynt ddechrau ceisio ailadeiladu eu bywydau.
“Ni roddodd y diffynyddion unrhyw ystyriaeth i fywyd ar noson yr ymosodiad, ac mae'r diffyg parch ac edifeirwch hyn wedi parhau drwy gydol yr achos hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y dedfrydau sylweddol a roddwyd iddynt heddiw yn rhoi amser i bob un ohonynt fyfyrio ar y distryw diwrthdro y mae eu gweithredoedd dideimlad a threisgar wedi'i achosi.
“Rwy'n gobeithio bod y dedfrydau hefyd yn anfon rhybudd i'r rhai sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch cyffuriau anghyfreithlon a throseddau'n ymwneud â chyllyll; mae mynd i'r afael â throseddau o'r fath yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn gweithio'n ddi-baid wrth ymchwilio i'r rhai sy'n cymryd rhan, mynd i'r afael â nhw a dod â nhw gerbron llys barn."