Stamp amser presennol: 04/02/23 06:32:28
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Saith wedi'u cael yn euog o ladd bachgen yn ei arddegau yn y Barri mewn ymosodiad ‘ffyrnig’

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

15:15 15/03/2021

Cafwyd tri dyn a bachgen a wnaeth ymosod ar fachgen yn ei arddegau, rhedeg ar ei ôl wrth iddo geisio dianc a'i ladd, yn dilyn anghydfod ynghylch cyffuriau, yn euog o lofruddiaeth heddiw.

Daethpwyd o hyd i Harry Baker, 17 oed, yn farw mewn porthladd cynwysyddion diwydiannol yn y Barri fore dydd Mercher, 28 Awst, 2019.

Roedd y bachgen wedi'i drywanu i farwolaeth a daethpwyd o hyd i'w gorff hanner noeth gan staff a oedd yn dod i'r gwaith yn Nherfynfa Ryngfoddol y Barri.

Clywodd treial yn Llys y Goron Casnewydd fod Harry a'i ffrind, Louis Johnson, wedi bod yn y dref yn gwerthu cyffuriau. Dywedwyd wrth y rheithgor fod y ddau wedi croesi grŵp o ddefnyddwyr cyffuriau lleol a oedd yn teimlo eu bod wedi'u twyllo ac a geisiodd gymorth gan ddelwyr cyffuriau eraill i'w hwynebu.

Yn y ffilm CCTV gwelir tri deliwr cyffuriau o Gaerdydd – Leon Symons, 22 oed, Leon Clifford, 23 oed, a bachgen 17 oed – yn cyrraedd y Barri tua 10.10pm ar noson 27 Awst.

Cafodd y tri eu gyrru i'r dref gan Lewis Evans, 62 oed, ar ôl i ddefnyddwyr cyffuriau o'r Barri, sef Ryan Palmer, 34 oed, Raymond Thompson, 48 oed, a Peter McCarthy, 37 oed, gysylltu â nhw a dweud wrthynt am yr amarch canfyddedig tuag atynt.

Dengys ffilm arall bob un o'r saith diffynnydd dros y ddwy awr nesaf wrth iddynt chwilio gwahanol strydoedd a chyfeiriadau ym mhen dwyreiniol y dref, gan geisio dod o hyd i'r delwyr ifanc i ddial arnynt.

Mae'r ffilm hefyd yn dangos wythfed person, sef Nathan Delafontaine, 34 oed, a blediodd yn euog i anhrefn dreisgar cyn yr achos ac nad oedd yn sefyll ei brawf am lofruddiaeth.

Ar ôl sefydlu dêl ffug, cyrhaeddodd y difynyddion Little Moors Hill yn fuan wedi hanner nos, lle y gellir gweld rhai yn cuddio mewn llwyni yn barod i ymosod ar y bechgyn yn eu harddegau. Mae o leiaf un o'r grŵp yn dal cyllell wrth i'r pâr gyrraedd ac maent yn cael eu herlid ar hyd Cardiff Road ac i mewn i Ffordd Wimbourne.

Mewn ymgais i ffoi rhag y rhai a oedd yn ymosod arnynt, dringodd Harry a'i ffrind y ffens i'r Derfynfa Ryngfoddol.

Dengys ffilm CCTV arall yr eiliad y mae Ryan Palmer, Peter McCarthy a Leon Symons ym mynd i mewn i'r cyfleuster â chyllyll ac estyll pren.

Ddwy funud yn ddiweddarach, mae'r tri, ynghyd â Leon Clifford, i'w gweld ar ffilm CCTV yn ffoi o'r lleoliad, ar ôl trywanu Harry i farwolaeth a thynnu rhai o'u dillad i ddwyn ei ffôn symudol.

O fewn hanner awr i'r llofruddiaeth, mae Symons, Clifford a'r dyn ifanc yn cael eu cludo yn ôl i Gaerdydd gan Evans.

Yn ystod y treial, derbyniodd pob un o'r diffynyddion eu bod wedi cael eu ffilmio ar CCTV ar wahanol adegau ar 27 Awst ac ystod yr oriau mân ar 28 Awst.

Fodd bynnag, gwadodd pob un ohonynt eu bod yn gyfrifol am lofruddiaeth Harry. Cyfaddefodd Leon Clifford i ddynladdiad ond gwrthodwyd ei ble gan yr erlyniad.

Hefyd, gwadodd Palmer, McCarthy, Thompson, Symons a'r bachgen yn ei arddegau, a oedd yn 16 oed ar adeg y llofruddiaeth, y cyhuddiad o anhrefn dreisgar a gwadodd Evans ei fod wedi helpu troseddwr.

Ond gwrthodwyd amddiffyniadau pob un ohonynt gan y rheithgor a, ddydd Llun 15 Mawrth, cafwyd Leon Clifford, Leon Symonds, Peter McCarthy a'r dyn ifanc, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn euog o lofruddiaeth:

cafwyd Lewis Evans, Raymond Thompson a Ryan Palmer yn ddieuog o lofruddiaeth ond fe'u cafwyd yn euog o gyhuddiad amgen o ddynladdiad.

Gohiriodd y Barnwr Meistr Ustus Picken eu dedfrydu tan ddydd Llun, 29 Mawrth.

Gan groesawu'r rheithfarnau, dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Andy Miles:

“Roedd hwn yn ymosodiad milain, disynnwyr a bwriadol, lle y collodd bachgen ifanc ei fywyd, yn drasig.
“Er ei fod yn dod o deulu cariadus ac nad oedd yn brin o ddim, syrthiodd Harry i ffordd beryglus o fyw; ffordd o fyw lle y rhoddir mwy o werth ar gyffuriau ac arian nag ar fywyd dynol.
“Doedd Harry ddim yn haeddu'r gosb a roddwyd iddo y noson honno ac mae ei farwolaeth dreisgar wedi cael effaith ddinistriol ar y teulu a'r ffrindiau y mae'n eu gadael ar ei ôl.
“Rydym yn parhau i feddwl amdanynt wrth iddynt aros nawr i gael gwybod pa ddedfrydau y bydd llofruddwyr Harri yn eu cael, a dechrau meddwl am ailadeiladu eu bywydau hebddo.” 

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.