Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:26 05/03/2021
Wrth inni symud i mewn i'r penwythnos bydd ein swyddogion a'n staff unwaith eto'n patrolio De Cymru i helpu i gadw trigolion yn ddiogel.
Rydym yn gofyn i'r cyhoedd ein helpu trwy gadw at y cyfyngiadau covid Lefel Rhybudd 4 i helpu i leihau lledaeniad Coronafeirws.
O ganlyniad i bryderon y cyhoedd, a thoriadau sylweddol blaenorol o'r cyfyngiadau teithio, bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ffyrdd o amgylch, parciau, meysydd parcio a lleoliadau glan môr yn ardaloedd Caerdydd, Porthcawl, y Barri a Phenarth. Dylai'r rhai sy'n teithio i'r ardaloedd hyn heb esgus rhesymol ddisgwyl cael eu stopio a derbyn cosb.
Mae'r gwiriadau hyn yn cael eu cynnal rhwng 05 Mawrth - 08 Mawrth o dan bwerau a nodir yn Rheoliad 35 o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Dywedodd yr Uwcharolygydd Claire Evans:
“Rydym yn deall bod y cyfyngiadau yn achosi sialens i nifer , ac rydym yn ddiolchgar i fwyafrif helaeth o drigolion sy'n parhau i wneud y peth iawn ac sy'n dilyn y rheolau i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a’r gwasanaeth iechyd.
“Fodd bynnag, mae’r tywydd gwell yn arwain at fwy o bobl yn meddwl ei bod yn iawn i dorri’r rheolau. Ni ellir goddef torri rheolau a byddwn yn parhau i ymateb i bryderon ein cymunedau, yn cynnal patrolau ac yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid awdurdod lleol ar y Timau Gorfodi ar y Cyd i sicrhau bod y rhai sy'n torri'r rheolau yn derbyn cosb."