Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:01 01/03/2021
Roedd protestwyr a phobl yn mynd i bartïon ac yn ymgasglu mewn mannau o harddwch ymhlith mwy na 370 o bobl a gafodd ddirwy gan Heddlu De Cymru am dorri cyfyngiadau'r coronafeirws y penwythnos hwn.
Er gwaethaf y ffaith bod Cymru gyfan o dan gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 Llywodraeth Cymru o hyd, teithiodd llawer o bobl i draethau a pharciau ac ymgasglodd i yfed yn yr awyr agored o ganlyniad i'r tywydd braf. Fel mewn wythnosau blaenorol, bu swyddogion hefyd yn ymateb i nifer mawr o bartïon mewn tai.
Ymhlith y rhai a gafodd ddirwy roedd:
Cyflwynwyd adroddiad gwysio i 10 o bobl a aeth i brotestiadau yng nghanol dinas Abertawe am dorri rheoliadau COVID-19, ac mae ymholiadau ar ôl digwyddiad yn mynd rhagddynt mewn perthynas â nifer o ddigwyddiadau. Gwnaed nifer o atgyfeiriadau ar gyfer camau dilynol ac ymchwilio hefyd i'r Timau Gorfodi ar y Cyd sy'n gweithredu ym mhob ardal awdurdod lleol yn Ne Cymru.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd, Andy Valentine:
“Rydym yn gwybod bod yr ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn heriol iawn i'n cymunedau, a gallwn ddeall fod pobl wedi bod yn awyddus i deithio allan o'u cynefin i fwynhau'r tywydd braf dros y penwythnos.
"Ond y gwir yw, mae'r coronafeirws yn parhau'n fygythiad gwirioneddol i bob un ohonom, ac mae rheswm da dros y ffaith bod Cymru gyfan o dan gyfyngiadau Lefel 4 o hyd.
“Mae'r mwyafrif helaeth ohonom wedi gwneud aberth go iawn i gefnogi'r ymdrech genedlaethol; pe byddem yn rhoi'r gorau iddi nawr, mae risg y byddem yn dadwneud popeth a wnaed gennym hyd yn hyn.
"Mae'r ffaith bod y brechlyn yn cael ei gyflwyno a'r cynlluniau i lacio'r cyfyngiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhoi gobaith mawr ei angen i ni, ond byddem yn annog ein cymunedau lleol i barhau i ddilyn y rheolau sydd ar waith ar hyn o bryd.
"Nid ein dewis ni yw gorfodi'r rheolau hyn; byddai'n well gennym pe bai pawb yn gwneud y peth iawn. Ond rydym yn parhau i bwysleisio y bydd y bobl hynny sy'n torri'r rheolau yn amlwg neu dro ar ôl tro yn wynebu camau gorfodi.”