Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:36 25/03/2021
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Travis:
“Mae plismona protestiadau yn heriol ac yn gymhleth, ac mae gan Heddlu De Cymru hanes hir amlwg o negodi gyda threfnwyr protestiadau er mwyn hwyluso protestiadau heddychlon yn unol â’r gyfraith.
“Ond mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn gyfnod heb ei ail, ac mae dyletswydd arnom i gynnal deddfwriaeth y Coronafeirws a gyflwynwyd er mwyn diogelu'r GIG ac achub bywydau. Diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth, a hwn fydd ein prif flaenoriaeth bob amser: nid yw'r pandemig wedi newid hyn. Rydym bob amser wedi ceisio dod o hyd i'r cydbwysedd cywir rhwng hawliau protestwyr a hawliau preswylwyr a busnesau lleol, gan ystyried y risgiau gwirioneddol y mae'r posibilrwydd o ledaenu'r feirws yn eu peri ar yr un pryd.
“Wrth i ni barhau i lywio ein ffordd drwy dirwedd newidiol COVID-19, yn ogystal â'r gwahanol heriau sy'n deillio o'r feirws, byddwn bob amser yn cynllunio ac yn paratoi ar gyfer pob digwyddiad posibl, yn arbennig yng ngoleuni’r protestiadau diweddar a gynhaliwyd yn Ne Cymru ac mewn rhannau eraill o'r wlad.
“Bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu â phobl ac yn esbonio'r cyfyngiadau sydd ar waith ar y pryd. Rwy'n annog y cyhoedd i barhau i'n cefnogi yn ein hymdrechion i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach. Os byddant yn protestio, rwy'n eu hannog i wneud hyn yn unol â’r gyfraith er mwyn eu cadw nhw eu hunain, a'n swyddogion ni, yn ddiogel.
“Lle mae'n gyfreithlon, byddwn yn ceisio hwyluso protestiadau heddychlon, ond ni oddefir unrhyw drais. Yn ffodus, mae'r rhan fwyaf o brotestiadau yn heddychlon, ond fel y gwyddom o'r hyn a welwyd ym Mryste, gall fod nifer bach o bobl yn dod i ddigwyddiadau o'r fath a'u bryd ar gyflawni troseddau yn unig, gan gynnwys ymosod ar yr heddlu. Mae hyn yn hollol annerbyniol, a bydd unrhyw unigolyn a gaiff ei ddal yn cyflawni troseddau mewn protestiadau yn wynebu'r canlyniadau sy'n deillio o'i weithredoedd."