Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:36 08/03/2021
Cafodd tua 240 o bobl ddirwy dros y penwythnos wrth i Heddlu De Cymru barhau i orfodi cyfyngiadau'r Coronafeirws sydd ar waith o hyd i'n cadw'n ddiogel.
Er bod Cymru gyfan o dan gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 Llywodraeth Cymru o hyd, ymatebodd swyddogion i lawer o adroddiadau am bartïon mewn tai, cynulliadau a phobl yn teithio i ardaloedd arfordirol a mannau o harddwch. Roedd hefyd ymgyrchoedd rhagweithiol ar waith i stopio gyrwyr a chadarnhau eu rhesymau dros deithio, gan gynnwys tua 200 ym Mhorthcawl ac o gwmpas y dref.
Ymhlith y rhai a gafodd ddirwy roedd:
Dwy fenyw o Gwmbrân a achosodd ymgyrch chwilio yn cynnwys yr heddlu a thîm Achub Mynydd ar ôl iddynt fynd ar goll yng nghefn gwlad Cwm Nedd;
Dau unigolyn a gafodd eu harestio am feddu ar gyffuriau gyda'r bwriad o'u cyflenwi ar ôl i swyddogion ymateb i lawer o fynd a dod mewn cyfeiriad yn Grangetown;
20 o unigolion a gafodd ddirwy am deithio i Aberogwr i wneud ymarfer corff;
Pum unigolyn a deithiodd o Birmingham i Rodfa Lan Môr Penarth am ddiwrnod allan;
Tri dyn a deithiodd o Gasnewydd i Fae Caerdydd i fynd am dro;
Saith unigolyn a welwyd yn mynd i wersylla mewn coedwig ym Mro Morgannwg;
Cwpl a oedd wedi teithio o Bournemouth i weld perthnasau yng Nghaerdydd;
Saith unigolyn a gafodd eu canfod mewn parti mewn tŷ yn Abertawe;
Pedwar unigolyn a aeth i barti pen-blwydd yng Nglandŵr;
16 o ddirwyon i unigolion a gafodd eu canfod mewn dau barti mewn tai ar wahân ym Mount Pleasant a Sandfields, Abertawe;
Ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr rhoddwyd 37 o gosbau penodedig am gynulliadau a naw arall am deithio diangen;
Ledled Caerdydd, rhoddwyd 64 o ddirwyon am nifer o bartïon mewn tai a chynulliadau dan do.
Gwnaed nifer o atgyfeiriadau ar gyfer camau dilynol ac ymchwilio hefyd i'r Timau Gorfodi ar y Cyd sy'n gweithredu ym mhob ardal awdurdod lleol yn Ne Cymru.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd, Andy Valentine:
“Y penwythnos hwn mae swyddogion a PCSOs Heddlu De Cymru wedi parhau â'u hymdrechion i gadw'r cyhoedd yn ddiogel rhag COVID-19.
“Er bod y mwyafrif helaeth o bobl yn parhau i ddilyn y rheolau, yn anffodus rydym wedi gorfod cymryd camau mewn perthynas â nifer o achosion amlwg a bwriadol o dorri rheoliadau'r Coronafeirws.
“Mae gan rai o'r digwyddiadau rydym wedi ymdrin â nhw y penwythnos hwn y potensial i danseilio'r aberth a arweiniodd at leihau nifer yr achosion o COVID-19 yn ein cymunedau.
“Yn ogystal â diolch i'r rhai sy'n gwneud y peth iawn i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel, rwyf am apelio am gefnogaeth barhaus y cyhoedd wrth ddilyn deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
“Mae cyflwyno'r brechiad a'r disgwyl y bydd cyfyngiadau yn llacio yn cynnig gobaith i bawb, ond am y tro mae'n rhaid i ni barhau i ddilyn y rheolau sydd ar waith ar hyn o bryd i atal cynnydd mewn achosion o COVID-19 yn ein cymunedau.”