Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:46 08/03/2021
Rydym yn dechrau dathlu Mis Hanes Menywod heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Diwrnod sy'n canolbwyntio ar ddathlu cyflawniadau menywod, gan godi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb menywod a gweithio i greu byd sy'n arddel cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw ‘DewisHerio’, gan annog dynion a menywod i herio rhagfarn ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Mae ein stori yn dechrau gyda'n plismonesau cyntaf, yn cynnwys Elsie Joan Baldwin a ymunodd â Chwnstabliaeth Morgannwg yn 1948. O'r adeg honno, wynebodd stereoteipiau yn uniongyrchol, gan ddarparu cadernid mewn byd a oedd wedi bod yn ‘fyd o ddynion’ yn flaenorol.
Drwy'r mis, gallwch ddisgwyl clywed mwy am straeon a chyfraniadau menywod yn ein heddlu o wahanol rengoedd a rolau, gan ganolbwyntio ar y ffyrdd gwahanol y maent wedi dewis herio drwy gydol eu gyrfaoedd.
Byddwn hefyd yn rhannu arddangosfa rithwir 3D - Dilynwch ni @HeddluDeCymru i gael rhagor o wybodaeth.
I fod yn rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021, ewch i wefan Diwrnod Rhyngwladol y Menywod