Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:42 22/03/2021
Roedd pobl a oedd yn torri cyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar gynulliadau dan do ymhlith y 240 o bobl a oedd wedi cael dirwy gan Heddlu De Cymru ar y penwythnos.
Rhwng nos Wener a dydd Sul, cafodd yr heddlu fwy na 400 o alwadau yn ymwneud ag achosion posibl o dorri cyfyngiadau COVID-19, a chafodd 109 o ddirwyon eu cyflwyno yn rhanbarth Morgannwg Ganol yn unig. Mae'r rhanbarth yn cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, sydd wedi gweld cynnydd mewn heintiau dros yr wythnosau diwethaf.
Ymhlith y 243 o bobl a gafodd ddirwy am dorri rheoliadau'r coronafeirws yn fwriadol roedd y canlynol:
Mae'r Timau Gorfodi ar y Cyd ym mhob ardal awdurdod lleol hefyd yn parhau i gymryd camau gorfodi, yn y fan a'r lle ac yn ôl-weithredol. Ddydd Sadwrn, cyflwynodd Tîm Gorfodi ar y Cyd Caerdydd 27 o hysbysiadau cosb benodedig i bobl a aeth i bedwar parti yn ardal Cathays. Yn Abertawe, mae tafarn wedi cael ei chyfeirio at dimau trwyddedu yn dilyn pryderon ynghylch niferoedd uchel o bobl yn ymgynnull ac yn yfed yn y lleoliad.
Cafodd nifer o orchmynion cyfeirio ymddygiad gwrthgymdeithasol eu cyflwyno hefyd ar ôl i'r heddlu amharu ar amrywiaeth o bartïon mewn tai a chynulliadau yn cynnwys pobl o dan 18 oed ar draws ardal yr heddlu, gan gynnwys un yn y Gurnos, Merthyr Tudful, lle roedd tua 30 o bobl ifanc yn bresennol.