Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:28 13/03/2021
Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Sarah Everard.
Rydym yn deall y teimladau cryf y mae ei marwolaeth wedi'u sbarduno ledled y wlad ac yn ein cymunedau lleol a hoffem eich sicrhau nad ydym wedi'u hanwybyddu. Fel gwasanaeth yr heddlu, rydym yn ymdrechu bob dydd i sicrhau bod ein cymunedau mor ddiogel â phosibl i bawb sy'n byw, yn gweithio, neu'n astudio yn ardal heddlu De Cymru neu'n ymweld â hi.
Mae'n bwysig i ni ein bod yn gwrando ar ein cymunedau, ond mae hefyd angen i ni gofio ein bod yn parhau ynghanol pandemig byd-eang, lle y mae aelodau o'n cymunedau yn marw.
Ochr yn ochr â heddluoedd y DU, mae Heddlu De Cymru yn cydnabod ac yn cynnal yr hawl i brotestio'n ddemocrataidd ac, mewn amgylchiadau arferol, byddem yn hwyluso protestiadau heddychlon gan sicrhau cyn lleied o darfu ar y cyhoedd â phosibl.
Ond nid yw'r rhain yn amgylchiadau arferol ac mae'r Coronafeirws yn parhau i fod yn glefyd angheuol ac mae cyfyngiadau ar waith i'w atal rhag lledaenu.
Mae swyddogion yn gweithio'n galed i ymgysylltu â'r bobl sy'n mynychu'r protestiadau i'w hatgoffa o'u rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth gyfredol y Coronafeirws, a'r nod cyffredin, sef y dylai pawb gymryd cyfrifoldeb personol drwy ddilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru.
Mae gennym ddyletswydd i ystyried yr holl ddeddfwriaeth berthnasol, ac mae Heddlu De Cymru wedi ceisio cadw dull plismona cyson o ymgysylltu, esbonio ac annog, a gorfodi lle y bo angen os bydd popeth arall wedi methu, drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.
Mae'r dull gweithredu hwn wedi cael ei gynnal a gofynnwn i bobl nodi'r digwyddiadau trasig ar-lein neu drwy ddulliau eraill sy'n osgoi'r posibilrwydd o swyddogion yn gorfod cymryd camau gorfodi mewn cynulliadau mawr neu yn ôl-weithredol.
Er ein bod yn gwybod y bydd hyn yn siomedig i rai, rydym yn annog pawb i nodi'r digwyddiad hwn a sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed mewn ffordd amgen a diogel.