Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:25 19/03/2021
Mae BBC Crimewatch Live wedi dangos achos Robert Williams, bachgen 15 mlwydd oed aeth ar goll o'i gartref yn Resolfen 19 mlynedd yn ôl.
Mae ei fam, Cheryl, yn apelio ar bobl i ‘helpu i ddod â'i bachgen bach gartref’.
Dywedodd:
“Nid wyf erioed wedi cael yr atebion sydd eu hangen arnaf. Yr unig beth sy'n bwysig i mi yw cael gwybod ble mae Robert fel y gallaf ddod ag ef adref a'i roi i orffwys a chael cyfle i alaru'n iawn o'r diwedd.
“Mae rhywun yn gwybod beth ddigwyddodd i Robert. Efallai eich bod yn ifanc ar y pryd, ac nad oeddech yn gwybod beth i'w wneud, neu efallai bod ofn arnoch beth y byddai pobl eraill a oedd yn gwybod yn ei wneud. Ond mae cryn dipyn o amser ers hynny, a byddai rhoi cyfle i Robert orffwys a rhannu'r hyn rydych yn ei wybod â rhywun yn eich galluogi i fwrw'r baich rydych wedi bod yn ei gario, ac yn dod â dioddefaint fy nheulu i ben.
“Efallai bod plant gennych chi eich hun erbyn hyn, ac y byddwch, fel rhiant, yn deall i raddau sut brofiad ydyw i mi.
“Mae angen i mi wybod ble mae Robert. Nid wyf am fod yn fam na fydd byth yn cael gwybod beth ddigwyddodd i'w mab.”
Dywedodd DI David Butt:
“Lansiwyd apêl unigolyn coll 19 mlynedd yn ôl ar ôl i Cheryl, mam Robert Williams, roi gwybod i'r heddlu ei fod wedi mynd ar goll.
“Mae gwybodaeth y gallai fod wedi treulio'r dyddiau nesaf yn ardal Aberdulais, ac ers 2002 rydym wedi dilyn sawl trywydd i gadarnhau beth yn union sydd wedi digwydd i Robert.
“Bob tro y byddwn yn dilyn trywydd newydd, byddwn yn cydgysylltu â Cheryl ac rwy'n gweld y gobaith ar ei hwyneb y bydd hi'n cael yr atebion y mae hi eu heisiau yn ddirfawr o'r diwedd.
“Hyd yma, er gwaethaf ein hymdrechion glew, nid ydym wedi gallu cadarnhau beth ddigwyddodd i Robert ond, o gofio'r holl amser sydd wedi mynd heibio, rwy'n credu bod gan rywun yn ein cymunedau wybodaeth a allai ein helpu.
“Mae croeso i chi roi unrhyw wybodaeth sydd gennych i ni.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni gan ddyfynnu cofnodrif 62070210819:
Ewch i: https://bit.ly/SWPReportOnline
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Neu Crimestoppers ar 0800 555 111