Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:09 29/03/2021
Ddydd Sadwrn, 27 Mawrth 2021, daeth cyfyngiadau aros yn lleol Llywodraeth Cymru i ben a chafodd y rheolau o ran nifer y bobl a all gwrdd yn yr awyr agored eu llacio.
Gall hyd at chwe pherson o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored, gan gadw pellter cymdeithasol.
Mae'r rheolau o ran cwrdd dan do yr un peth ond, er bod y rheolau wedi'u llacio, cafodd 106 o bobl eu dirwyo gan Heddlu De Cymru am ddiystyru'r cyfyngiadau.
Rhwng nos Wener a dydd Sul, cafodd yr heddlu 261 o alwadau yn ymwneud ag achosion posibl o dorri rheolau COVID-19. Roedd y mwyafrif helaeth o'r achosion hyn yn ymwneud â phartïon mewn tai a phobl yn ymgynnull dan do.
Mae ymholiadau ôl-ddigwyddiad yn mynd rhagddynt gyda Thimau Gorfodi ar y Cyd mewn perthynas â nifer o eiddo rhent ar a ddefnyddiwyd rhent i gynnal partïon gyda nifer mawr o bobl. Roedd un o'r rhain yn cynnwys dros 60 o bobl mewn parti mewn eiddo rhent yn Adamsdown, Caerdydd. Caiff camau ôl-weithredol eu cymryd lle y bo'n angenrheidiol ac yn briodol.
Rhoddwyd Contractau Ymddygiad Derbyniol i safleoedd a oedd yn gweini alcohol gan fod torfeydd mawr yn ymgynnull, gan gynnwys un yn ardal Cathays, Caerdydd ac un arall yn ardal Plasnewydd, Caerdydd.