Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gang o ddelwyr cyffuriau llinellau cyffuriau wedi'i garcharu am gyfanswm o fwy na 15 mlynedd yn dilyn stop rhagweithiol gan dîm Ymgyrch Sceptre.
Cafodd y cerbyd ei stopio gan y tîm ar Gors Avenue, Abertawe ym mis Awst y llynedd, ac yn dilyn ymchwiliad gan ein tîm plismona rhagweithiol, plediodd y pedwar unigolyn a oedd yn teithio yn y cerbyd yn euog ac maent wedi'u dedfrydu am feddu ar gyffuriau Dosbarth A gyda'r bwriad o'u cyflenwi:
Omar Abdi, 28 oed, o Hillingdon, 5.5 mlynedd
Osman Ishmail, 35 oed, of Mount Pleasant, 4 blynedd
Marc Cairns, 44 oed, o Glydach, 3.5 blynedd
Ian Morris, 43 oed, o Glydach 2 flynedd a 4 mis
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Marc Gardner:
"Mae tarfu ar ddelio mewn cyffuriau a chymryd camau gorfodi yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith i fynd i’r afael â llinellau cyffuriau a throseddu, gyda’r nod o wneud De Cymru yn amgylchedd annymunol i grwpiau troseddau cyfundrefnol ac atal pob math o niwed sy’n gysylltiedig â’r gangiau hyn.
"Mae ein swyddogion yn cymryd camau rhagweithiol bob dydd ac mae gennym swyddogion dynodedig sy'n gwisgo dillad plaen yn ein cymunedau, gyda'r nod allweddol o darfu ar ddelwyr cyffuriau a throseddwyr cyfundrefnol sy'n targedu'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymuned, a mynd i'r afael â nhw.
"Os byddwch yn amau bod pobl yn delio mewn cyffuriau neu os byddwch yn poeni bod person ifanc neu oedolyn sy'n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, rhowch wybod i ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
"Ffoniwch ni ar 101, neu gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle i roi gwybod yn ddienw os byddai'n well gennych wneud hynny – ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os oes trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser."