Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
"Rydym yn ymwybodol o'r pryderon cynyddol ynghylch achosion o ddwyn cŵn yn ein cymunedau.
"Mae rhywfaint o dystiolaeth genedlaethol yn nodi bod troseddwyr wedi addasu eu gweithgarwch yn sgil y pandemig, ac yn manteisio ar y cynnydd yn y galw am anifeiliaid anwes. Credir bod yr adroddiadau cyffredinol am y gost uwch o brynu anifeiliaid anwes hefyd yn sbarduno hyn.
"Mae hwn yn bryder ac yn broblem gynyddol rydym ni fel heddlu yn ei gymryd o ddifrif, ac rydym yn llwyr werthfawrogi yr effaith ddinistriol y gall trosedd o'r fath ei chael ar ddioddefwyr.
"Fodd bynnag, ar hyn o bryd, hoffem bwysleisio fod nifer yr achosion o ddwyn y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ein hardal heddlu yn dal yn isel.
"Ein cyngor i unrhyw un sy'n berchen ar anifail anwes yw byddwch yn wyliadwrus ond peidiwch â dychryn.
"Mae llawer o'r adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ddi-sail, ac er eu bod yn aml yn cael eu rhannu gan bobl sydd â bwriadau da sy'n gobeithio codi ymwybyddiaeth, mae yn aml yn codi ofn ac yn lledaenu gwybodaeth anwir a mythau.
"Byddem yn apelio ar y cyhoedd i roi gwybod am ddigwyddiadau a gweithgarwch amheus i ni fel y gallwn ymchwilio iddynt yn llawn a chreu darlun o dueddiadau cynyddol posibl hefyd.
"Yn ogystal ag ymateb i adroddiadau, rydym yn mabwysiadu dull rhagweithiol o fynd i'r afael â'r mater hwn a thawelu pryderon y cyhoedd.
"Rydym yn gweithio'n agos â heddluoedd cyfagos a phartneriaid eraill; rydym wedi cynyddu ein patrolau a'n gwelededd mewn ardaloedd o bryder; ac rydym wedi cynnal ymgyrchoedd lleol sydd wedi'u harwain gan gudd-wybodaeth.
"Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am atal achosion o ddwyn cŵn, cadw eich anifeiliaid anwes yn ddiogel a phrynu anifeiliaid anwes ar wefannau elusennau lles anifeiliaid amrywiol, gan gynnwys y Blue Cross a'r Dogs Trust."
I roi gwybod am ddigwyddiadau a gweithgarwch amheus, cysylltwch ag 101 neu rhowch wybod ar-lein yn https://bit.ly/SWPReportOnline.
Fel arall, gallwch gysylltu â Taclo'r Tacle yn gwbl ddienw ar 0800 555 111.