Stamp amser presennol: 23/06/26 13:33:22
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Y Blitz Tair Noson 85 mlynedd yn ddiweddarach

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 09:00 20/02/2026

Mae Heddlu De Cymru wedi bod yn myfyrio ar y difrod a achoswyd yn ystod y Blitz Tair Noson ac yn cofio'r rôl y gwnaeth ei heddluoedd rhagflaenol, Heddlu Bwrdeistref Abertawe, ei chwarae.

Rhwng 19 a 21 Chwefror 1941, roedd Abertawe wedi dioddef tair noson yn olynol o ymosodiadau o'r awyr. Nod bomio'r dref yn drwm ac yn gyson oedd ceisio dinistrio’r porthladd, y dociau a'r burfa olew lleol. Cafodd yr ardaloedd hyn eu targedu i'w bomio o ganlyniad i'r rolau roeddent yn eu chwarae yn cefnogi ymdrech rhyfel y Cynghreiriaid.

Roedd y bomio wedi troi llawer o ganol y dref yn rwbel ac roedd wedi dinistrio llawer o dai ac ardaloedd preswyl, gan adael llawer o deuluoedd ac aelwydydd wedi'u dadleoli. Yn ddiweddarach, gwnaeth llygad-dyst ddwyn i gof y difrod a achoswyd gan y bomio drwy ddweud:

“Roedd canol y dref wedi'i ddinistrio'n llwyr. Nid oedd unrhyw adeilad yn gyflawn ac roedd yn rhywbeth roeddech ond wedi'i weld mewn ffilmiau cyn hyn - ond roedd popeth wedi'i ddinistrio'n llwyr. Roedd pob adeilad wedi'i ddymchwel a'r unig beth y gallech ei weld oedd rwbel ym mhob man.”

Swansea Castle Street Blitz [W_Glam].jpg

Abertawe ar ôl y Blitz. Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Yn ystod y bomio, ymatebodd swyddogion yr heddlu o Abertawe a'r ardaloedd cyfagos yn gyflym i ddiogelu pobl y dref. Roeddent yn amddiffyn safleoedd a oedd wedi'u bomio er mwyn atal ysbeilio a gwnaethant orfodi cyfyngiadau ar fynediad i ganol y dref, lle oedd adfeilion cymaint o adeiladau yn beryglus.

P-PR 95-4-2a Castle Street.jpg

Llun: Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg

Byddai'r bomio, sef, heb os, yr her fwyaf y gwnaeth heddlu Abertawe ei wynebu erioed, yn hawlio bywydau dros 200 o bobl. Un o'r bywydau a gollwyd yn ystod y bomio oedd bywyd rhingyll yr heddlu William Flitter, a gafodd ei ladd ar ddyletswydd pan ddisgynnodd bom ffrwydrol dros Orchard Street. Cafodd ei enw ei goffáu yn ddiweddarach ar y Ffenestr Goffa yng Ngorsaf Heddlu Canol Abertawe a chaiff ei gofio hefyd yn Rhestr Gwroniaid 1939-1945 yr heddlu.

Yn dilyn y Blitz, cafodd sawl un o swyddogion Heddlu Bwrdeistref Abertawe eu canmol am eu gweithredoedd, gan gynnwys Prif Swyddog yr Heddlu Frank Joseph May, a gafodd OBE am ei rôl yn yr ymateb i'r bomio.

Swyddog arall a gafodd ei gydnabod am ei ddewrder oedd PC Francis Dart, a gafodd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei ran yn achub pobl o adeiladau a gafodd eu bomio.

WWII - Churchill.jpg

Winston Churchill yn ymweld ag Abertawe yn dilyn y Blitz. Frank Joseph May ar y chwith pell.

Ym mis Chwefror 1941, cafwyd y cyrchoedd bomio mwyaf dwys a dinistriol a welwyd yng Nghymru erioed ac, 85 o flynyddoedd yn ddiweddarach, rydym yn dal i gofio am y Blitz Tair Noson ac yn talu teyrnged i'r rhai a gollodd eu bywydau.

Ar yr achlysur teimladwy hwn, rydym hefyd yn talu teyrnged i swyddogion Heddlu Bwrdeistref Abertawe, a ddangosodd gymaint o ddewrder wrth wasanaethu eu cymunedau.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.