Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Heddlu ym Mhenarth wedi atal parsel yn cynnwys mwy na £4k o arian parod, a oedd eiddo i bensiynwr, a oedd ar ei ffordd i dwyllwyr yn Llundain.
Roedd yr arian yn eiddo i Anne, menyw leol 80 oed, a oedd wedi cael galwad ffôn dwyllodrus gan unigolion yn honni eu bod yn gweithio i'w banc.
Gwnaethant ddweud wrth Anne fod arian wedi cael ei gymryd o'i chyfrif ond y gallent ei gael yn ôl iddi pe bai'n anfon arian atynt.
Ychydig oriau ar ôl iddi bostio'r arian, sylweddolodd Anne ei bod wedi cael ei thwyllo a chysylltoedd â Heddlu De Cymru.
Pan aeth PC Jay Monk a PC Nicholas Beynon (yn y llun) i gartref Anne, dywedodd wrthynt ei bod wedi codi £4,250 o arian parod o’i chyfrif banc, ei roi mewn blwch a’i anfon drwy wasanaeth dosbarthiad arbennig y Post Brenhinol i gyfeiriad yn Llundain.
Gan esbonio'r hyn a ddigwyddodd nesaf nos Wener, 15 Ionawr, dywedodd Rhingyll yr Heddlu Andy Mason:
"Gweithredodd PC Monk a PC Beynon yn gyflym a gan ddefnyddio'r rhif olrhain, gwelsant drwy wefan y Post Brenhinol fod y parsel yn gadael Caerdydd am Lundain.
"Aethant i'r swyddfa ddidoli ar Heol Penarth tua 10pm gan obeithio cael rhif cyswllt y gyrrwr neu o leiaf anfon neges i safle'r Post Brenhinol yn Llundain.
"Fodd bynnag, am eu bod wedi gweithredu mor gyflym, llwyddon nhw i gyrraedd y parsel cyn i'r gyrrwr adael.
"Pe bai'r parsel wedi gadael am Lundain, mae'n bosibl y byddem wedi gorfod ceisio ei olrhain drwy'r system nes byddai'n rhy hwyr ac wedi cael ei ddosbarthu.
"Cafodd PC Monk a PC Beynon y pleser o ddychwelyd yr arian at Anne a oedd wrth ei bodd.”
Rhoddwyd gwybod i'r Heddlu Metropolitanaidd ac Action Fraud am y mater.
Mae PCSOs lleol bod yn ymweld ag Anne ar ôl siarad â'i theulu ac mae ein Tîm Atal Troseddau hefyd wedi ymweld â hi i roi cyngor iddi ar sut i adnabod sgamiau.
Gall twyllwyr geisio eich twyllo chi i roi arian iddynt mewn nifer o ffyrdd.
Gall y rhain gynnwys:
Ni fydd yr heddlu na banciau byth yn gofyn am arian gennych.
Ni fyddant yn gofyn i chi drosglwyddo arian rhwng cyfrifon.
Ni fyddant yn gofyn i chi ymuno ag ymchwiliad cudd.
Ni fyddant yn eich gorfodi i dalu drwy fygwth eich arestio.
Gofalwch am deulu, ffrindiau a chymdogion drwy rannu'r cyngor hwn. I roi gwybod am achosion o dwyll ffoniwch 101. Mewn argyfwng ffoniwch 999.