Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhoddwyd cyfanswm o 240 o ddirwyon yn Ne Cymru dros y penwythnos wrth i swyddogion barhau i gymryd camau i gosbi'r rhai sy'n torri deddfwriaeth y coronafeirws.
Er bod y mwyafrif helaeth yn parhau i gefnogi'r mesurau a roddwyd ar waith er mwyn helpu i arafu lledaeniad y feirws, ataliodd swyddogion Heddlu De Cymru nifer o bartïon mewn tai a phobl yn ymgynnull, gan gymryd camau gorfodi i ddelio ag achosion o dorri cyfyngiadau teithio.
Ymhlith y dirwyon a roddwyd rhwng dydd Gwener, 29 Ionawr a dydd Sul, 31 Ionawr, roedd:
Cynhaliwyd gwiriadau rhagweithiol ar gerbydau hefyd ledled ardal yr heddlu, gan gynnwys Rhiwbeina, Pontcanna a Phorthcawl, a rhoddwyd nifer o ddirwyon am achosion o deithio'n ddiangen.
Rhoddwyd y dirwyon diweddaraf oriau ar ôl i'r Prif Weinidog Mark Drakeford gadarnhau y byddai cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 yn parhau am dair wythnos arall. Roedd y dirwyon hefyd yn dilyn wythnos o gamau gorfodi pellach a arweiniodd at nifer o achosion tebyg o dorri'r rheolau, gan gynnwys saith o bobl yn ymgynnull mewn bar Shisha yn Abertawe, a chwech o bobl yn hyfforddi mewn clwb bocsio ym Maesteg.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd, Andy Valentine: “Cymerwyd y camau gorfodi diweddaraf hyn yn yr oriau a'r dyddiau yn dilyn cyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru.
“Er ein bod yn deall yn iawn pa mor heriol y bu'r cyfyngiadau hyn, mae'r union ffaith eu bod wedi'u hymestyn yn dangos nad nawr yw'r amser i orffwys ar ein rhwyfau. Mae achosion amlwg o dorri'r rheolau, megis yr achosion a welwyd gan ein swyddogion dros y penwythnos, yn peryglu'r cynnydd a wnaed gan y mwyafrif helaeth sy'n dilyn y rheolau, ac yn rhoi straen ychwanegol ar ein gwasanaethau iechyd sydd eisoes dan bwysau.
“Ni ellir goddef y fath achosion difrifol o dorri'r rheolau, a byddwn yn parhau i ymateb i bryderon gan ein cymunedau, cynnal patrolau rhagweithiol a gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol ar y Timau Gorfodi ar y Cyd i sicrhau bod y rhai sy'n torri'r rheolau'n fwriadol neu dro ar ôl tro yn wynebu camau gorfodi.”