Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r canlynol yn grynodeb o ddatganiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ddydd Mawrth mewn perthynas â'r ymchwiliad i farwolaeth Mohamud Hassan yng Nghaerdydd:
“....nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod Mr Hassan wedi'i taseru ar unrhyw adeg naill ai cyn neu yn ystod y cyfnod pan gafodd ei gadw yn y ddalfa.”
“Rydym yn ymwybodol bod llawer o sïon ar led am farwolaeth Mr Hassan ac yn gwybod bellach bod rhai ohonynt yn anghywir.
“Fel corff cyhoeddus, mae dyletswydd arnom i geisio cywiro camwybodaeth a allai fod yn y parth cyhoeddus, pan fyddwn yn gallu gwneud hynny.”
--
Mae'r heddlu yn parhau i gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac yn darparu gwybodaeth a deunyddiau, gan gynnwys deunydd fideo camera a wisgir ar y corff a deunydd teledu cylch cyfyng.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi ei chael ar ei deulu, ei ffrindiau a'r gymuned ehangach. Rydym yn parhau i feddwl am ei deulu ac yn cynnig ein cydymdeimlad iddynt.
Mae adroddiad llawn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gael yma: https://policeconduct.gov.uk/news/update-investigation-death-mohamud-mohamed-hassan-cardiff-0