Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:13 10/02/2021
Mae'n dristwch mawr gennym gyhoeddi marwolaeth ein ffrind a'n cydweithiwr, Cwnstabl yr Heddlu 6506, Kyle Burns.
Roedd Kyle, 36, yn swyddog ymateb wedi'i leoli yng ngorsaf heddlu Canol Caerdydd.
Ymunodd â'r heddlu yn 2019 ar ôl gwasanaethu gyda Heddlu Gwent a'r Metropolitan Police Service cyn hynny.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Tristwch o'r mwyaf yw clywed am farwolaeth Kyle, ac rwy'n gwybod bod y newyddion hyn yn ergyd drom i gydweithwyr yma ac yn nheulu ehangach yr heddlu.
“Rydym yn meddwl am deulu, ffrindiau a chydweithwyr Kyle. Yn bennaf oll, rwy'n meddwl am ei wraig a'i fab ifanc, yn ogystal â'i fam a'i dad.”
Bu farw Kyle ddydd Mawrth 9 Chwefror yn dilyn salwch byr.