Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae dyn 29 oed o Abertawe wedi cael dedfryd oes am lofruddio pensiynwr.
Cafwyd hyd i gorff David Phillips, 76 oed, yn ei gartref yn Lime Grove yng Nghimla, Castell-nedd ar 14 Chwefror 2019.
Cafodd rheithgor Tom Carney, 29 oed, o ardal Treforys yn euog a rhoddwyd dedfryd oes iddo heddiw yn Llys y Goron Abertawe. Bydd yn y carchar am o leiaf 15 mlynedd a 10 diwrnod.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Prendiville o'r Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr: “Cafodd Mr Phillips, pensiynwr 76 oed, ei guro i farwolaeth yn ei gartref. Roedd Carney yn adnabod Mr Phillips, ac roedd wedi cael ei wahodd i'w gartref y diwrnod hwnnw.
“Fodd bynnag, ar ôl gadael y cyfeiriad, daeth Carney yn ôl a fforsiodd ei hun i mewn drwy gicio a dinistrio drws ffrynt yr eiddo. Aeth ati wedyn i ymosod ar Mr Phillips mewn modd hynod dreisgar ac am gyfnod hir.
“Rydym yn gwerthfawrogi y gall hanes blaenorol y dioddefwr achosi rhai teimladau cryf, ond mae'r ddedfryd a roddwyd heddiw yn adlewyrchu pa mor ffyrnig a difrifol oedd yr ymosodiad arno.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r tystion yn yr achos hwn, gyda rhai ohonynt yn dyst i'r trais mwyaf dychrynllyd y gellir ei ddychmygu. Hoffwn hefyd ddiolch i'r gymuned leol yng Nghimla am ei help yn ystod yr ymchwiliad hwn."