Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Madog Rowlands wedi'i ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Lauren Griffiths.
Lladdodd y dyn 23 oed ei ddyweddi, Lauren Griffiths, a oedd yn 21 oed, yn eu fflat yn Cathays, Caerdydd.
Daethpwyd o hyd i gorff Lauren yn y fflat ar Stryd Glynrhondda am tua 6.30pm nos Fawrth, 30 Ebrill 2019.
Roedd Madog Llewellyn Rowlands, 23 oed o Wrecsam, wedi gwadu ei llofruddio, ond yn dilyn penderfyniad unfrydol gan y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Rhagfyr, mae wedi'i gael yn euog o'i llofruddio.
Heddiw, yn Llys y Goron Caerdydd, cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes.
Rhaid iddo aros yn y carchar am o leiaf 18 mlynedd, heb yr amser y mae eisoes wedi'i dreulio ar remánd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Stuart Wales, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru: “Roedd Lauren yn ferch ac yn chwaer annwyl â dyfodol disglair.
“Mae ei theulu wedi dangos amynedd ac urddas aruthrol yn ystod y cyfnod hir a thorcalonnus hwn.
“Rydym yn gobeithio nawr y gallant ddechrau adfer ac ailadeiladu eu bywydau.
“Ar ôl i Madog Rowlands lofruddio Lauren yn ystod oriau mân y bore ddydd Llun 29 Ebrill, arhosodd fwy na 24 awr cyn ffonio 999.
“Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaeth Rowlands godi arian o gyfrif banc Lauren, mynd i siopa, prynu llawer iawn o gyffuriau a'u cymryd, archebu pizza, a chreu cyfrif Netflix, cyn ffonio 999 yn y pen draw – ar ôl iddo sylweddoli natur anochel y sefyllfa, o bosibl.
“Ni ddangosodd unrhyw bryder ystyrlon am les nac urddas Lauren ar unrhyw adeg.
“Hoffem ddiolch i bob un o'r tystion a gynorthwyodd yr ymchwiliad, cymuned Cathays, yn ogystal â thîm yr erlyniad.”