Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae mis Chwefror yn fis Hanes Pobl LGBT+, ac mae’n adeg pan rydym yn myfyrio ar drafferthion a llwyddiannau'r gymuned LGBT+, y camau breision sydd wedi’u cymryd i sicrhau gwell cydraddoldeb a chynhwysiant i bawb, a’r gwersi a ddysgwyd o brofiadau blaenorol.
Er mwyn dathlu'r mis hwn, mae Heddlu De Cymru wedi gweithio gyda'n Rhwydwaith LGBT+ i gynhyrchu cyfres o fideos sy'n adlewyrchu hanes a theithiau ein cymunedau LGBT+, nid yn unig o safbwynt cymdeithasol, ond o fewn ein heddlu hefyd.
Yn y llinell amser fideo hon, mae aelodau o'n Rhwydwaith Staff LGBT+ yn tynnu sylw at rai dyddiadau allweddol a datblygiadau cyfreithiol sydd wedi ysbrydoli ac atgyfnerthu'r gymuned LGBT+ rydym yn ei hadnabod heddiw.
Yn ystod y mis rydym hefyd wedi cynhyrchu'r darn fideo hwn sy'n cynnwys y Prif Uwcharolygydd Chris Truscott, sy'n myfyrio yn y fideo hwn ar ei brofiadau fel swyddog ac fel aelod o'r gymuned LGBT+, ac yn trafod y cynnydd a wnaed gan Heddlu De Cymru yn cefnogi cydraddoldeb LGBT+.
Mae Heddlu De Cymru yn ymrwymedig i helpu a chefnogi unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd casineb o ganlyniad i’w gyfeiriadedd rhywiol, ei hunaniaeth o ran rhywedd, ei hil, ei anabledd neu ei grefydd.
Os ydych chi wedi wynebu problemau, neu os ydych chi’n wynebu problemau ar hyn o bryd, gallwch gysylltu â Heddlu De Cymru drwy ein gwefan neu drwy godi'r ffôl a deialu 101, neu 999 mewn argyfwng.