Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:19 11/02/2021
Mae dyn a wnaeth gyfaddef iddo achosi marwolaeth mam drwy achosi gwrthdrawiad â'i char hi wrth iddo deithio ar gyflymder uchel ar ffordd wledig wedi cael ei garcharu am bedair blynedd ac 11 mis.
Roedd Jeanette Macdonald, a oedd hefyd yn cael ei hadnabod fel Jeanette Preece, yn gyrru ei merch yn ei harddegau adref o apwyntiad deintydd ar noson 3 Gorffennaf 2019 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad angheuol wrth iddi ymuno â'r B4265 ger Ffwnmwn ym Mro Morgannwg.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd y gwelwyd BMW glas a oedd yn cael ei yrru gan Owen Daniel yn teithio ar gyflymder gormodol, hyd at 100mya ym marn tystion, yn yr eiliadau cyn y gwrthdrawiad difrifol.
Aethpwyd â Ms Macdonald i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond er gwaethaf ymdrechion gorau'r staff meddygol, a'r rheini a wnaeth stopio i helpu yn lleoliad y gwrthdrawiad, bu farw o ganlyniad i'w hanafiadau. Roedd angen llawdriniaeth ar ei merch, a oedd yn 19 oed ar adeg y gwrthdrawiad, ar ôl iddi ddioddef anafiadau i'w hwyneb ac anafiadau mewnol.
Yn ystod cyfweliad â'r heddlu, dywedodd Daniel, 25 oed o Eglwys Brewis, wrth swyddogion ei fod wedi bod yn teithio ar gyflymder o ryw 60mya a'i fod wedi ceisio troi'n sydyn i osgoi'r gwrthdrawiad wrth i Ms Macdonald dynnu allan o'r gyffordd.
Fodd bynnag, yn ystod ail ddiwrnod yr achos yn Llys y Goron Caerdydd, newidiodd Daniel ei ble a chyfaddefodd iddo achosi marwolaeth Jeanette MacDonald drwy yrru'n beryglus, ac achosi anaf difrifol i Paige Sturrock drwy yrru'n beryglus.
Cafodd ei ddedfrydu heddiw i bedair blynedd ac 11 mis yn y carchar a'i anghymhwyso rhag gyrru am naw mlynedd a phum mis.
Gan siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, Rhingyll Huw O'Connell:
“O ganlyniad i ymddygiad byrbwyll Owen Daniel y diwrnod hwnnw, bu farw menyw hoffus, gan adael bwlch mawr ym mywydau pawb a oedd yn ei hadnabod.
“Dioddefodd merch Jeanette hefyd anafiadau difrifol, ac yn ogystal â hynny, bu'n dyst i ganlyniadau'r gwrthdrawiad. Rwy'n siŵr y bydd atgofion erchyll y diwrnod hwnnw yn parhau ar gof a chadw iddi weddill ei hoes.
“Mae Owen Daniel hefyd wedi dinistrio ei fywyd ei hun – bydd angen iddo fyw gyda chanlyniadau ei weithredoedd am weddill ei oes. Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi cyfle iddo fyfyrio ar ddifrifoldeb yr hyn y mae wedi'i wneud.
“Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yn anfon neges gryf at yrwyr eraill ac yn eu hannog i feddwl pan fyddant y tu ôl i'r llyw. Goryrru yw un o'r prif ffactorau sy'n achosi gwrthdrawiadau yng Nghymru, a phan fydd ceir yn cael eu gyrru mewn ffordd fyrbwyll ac anghyfrifol, gallant fod yn arfau marwol, fel y mae'r achos trasig hwn wedi dangos.”