Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:00 15/02/2021
Mae'r dyn 34 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr M4 yn ystod oriau mân y bore ddydd Sadwrn, 13 Chwefror, wedi cael ei enwi fel Richard Pring o Lanhari.
Mae teulu Richard wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Fel teulu agos, mae colli Richard wedi bod yn ergyd drom i ni. Ni fydd ein bywydau fyth yr un peth eto, ac ni fyddem am iddynt fod. Roedd Richard yn fab, yn dad, yn ddyweddi, yn frawd ac yn ffrind.
“Roedd yn fawr ei gymeriad a byddech bob amser yn chwerthin yn ei gwmni. Roedd bob amser yn barod ei gymwynas. Ond, yn aml, y rhai sy'n helpu eraill yw'r rhai sydd angen help fwyaf.
“Mae iechyd meddwl ymhlith dynion yn bwnc tabŵ yn aml. Fel arfer bydd pobl yn anghofio amdano neu ddim yn gwneud fawr ohono. Nid yw pobl am siarad amdano. Rydym yn erfyn arnoch, os oes angen help arnoch chi neu ar unrhyw un rydych chi’n ei adnabod, gofynnwch amdano.
“Hoffai'r teulu ddiolch i bawb yn ein cymuned fach, glos, am eu geiriau caredig a'u cymorth ar yr adeg hon. Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr M4 rhwng cyffyrdd 34 a 35 tua 5.45am fore dydd Sadwrn.
Dywedodd y Rhingyll Huw O’Connell, o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol:
“Mae'n bwysig ein bod yn clywed gan unrhyw un a oedd yn teithio i'r naill gyfeiriad neu'r llall rhwng cyffyrdd 34 a 35 yr M4 rhwng 5.35am a 5.50am ddydd Sadwrn os nad yw wedi cysylltu â ni eto.
“Hoffem yn arbennig glywed gan unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ac sydd â deunydd fideo dashfwrdd o bosibl.”
Gofynnir i unrhyw un a all helpu ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu e-bostio [email protected] a dyfynnu rhif digwyddiad 2100051765.