Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dyn a fu farw ar ôl gwrthdrawiad un cerbyd yn Abertawe fore dydd Iau (4 Chwefror) wedi talu teyrnged iddo.
Bu farw Richard Clive Hixson – a adwaenid fel Clive – yn lleoliad y gwrthdrawiad, a ddigwyddodd ar gyffordd Mayals Road a Fairwood Road ychydig cyn 10.45am.
Wrth dalu teyrnged i'r dyn 65 oed, dywedodd ei deulu:
“Tristwch yw nodi marwolaeth Richard Clive Hixson, ‘Clive’ fel y'i adwaenid, yn sydyn ar 4 Chwefror.
“Mae'n gadael gwraig, Jane, a phlant, Nick, Ben, Joe a Katie, a saith o wyrion ac wyresau, a fydd yn gweld ei eisiau am byth.
“Ac yntau'n aelod annwyl o gymunedau West Cross a'r Mwmbwls, ac yn bennaeth TG ymddeoledig yn y DVLA, roedd Clive wrth ei fodd yn chwarae gyda'i wyrion a'i wyresau a gwylio rygbi. Bydd colled fawr ar ei ôl ef gan ei deulu a phawb a oedd yn ei adnabod.
“Hoffem ddiolch i'r gwasanaethau brys a'r cyhoedd a stopiodd i geisio helpu Clive wrth ymyl y ffordd.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu Toyata Yaris glas Mr Hixson yn cael ei yrru yn union cyn hynny, ffonio 101, gan ddyfynnu digwyddiad 2100040631.
Hoffai swyddogion hefyd glywed gan ddau berson a gynorthwyodd ond a adawodd y lleoliad cyn siarad â'r swyddogion; menyw a oedd yn gwisgo côt frown ac yn gyrru car coch bach o bosibl, a dyn a helpodd i gael Mr Hixson allan o'r car a dechrau adfywio cardio-pwlmonaidd.