Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:03 26/02/2021
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i fwrgleriaeth yn siop Co-op ar Countisbury Avenue, Tredelerch, Caerdydd, a ddigwyddodd tua 4am y bore yma.
Credir bod y bobl dan amheuaeth wedi defnyddio silindrau asetylen i dorri i mewn i'r siop a'r peiriant arian parod, gan greu ffrwydrad uchel ac achosi difrod sylweddol.
Cafodd preswylwyr nifer o fflatiau uwchben y siopau eu symud o'u cartrefi fel mesur rhagofalus nes bod y gwasanaeth tân wedi sicrhau bod y silindrau'n ddiogel.
Rhoddodd siop fara gyfagos gysgodfa a diodydd poeth i'r preswylwyr tan iddynt allu dychwelyd i'w cartrefi.
Ni roddwyd gwybod am unrhyw anafiadau. Mae'r ffordd yn parhau ar gau ac mae ymholiadau'n mynd rhagddynt.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu cofnodrif *067488.