Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:40 03/02/2021
Mae Heddlu De Cymru ac asiantaethau partner - Athletau Cymru, Rhedeg Cymru, Chwaraeon Cymru, Beicio Cymru a'r Cerddwyr – wedi cyd weithio i greu ymgyrch #YmarferEinRhyddid.
P'un a ydych yn rhedwr dibrofiad, yn feiciwr profiadol neu ond yn rhywun sydd am fynd am dro a mwynhau'r awyr iach, nod ymgyrch #YmarferEinRhyddid yw codi ymwybyddiaeth bod sylwadau digroeso a sarhaus neu ymddygiad bygythiol a anelir at bobl sy'n gwneud ymarfer corff yn annerbyniol.
Rydym yn cynghori'r cyhoedd, os bydd patrwm i'r math hwn o ymddygiad neu ddigwyddiad y maent yn teimlo sy'n fwy difrifol, gellid ei ystyried yn aflonyddu ac felly'n drosedd. Gofynnwn i'r rhai yr effeithir arnynt gan hyn roi gwybod drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng.
Dywedodd Gareth Hall, Rheolwr Rhaglen Rhedeg Cymru,
"Profwyd bod rhedeg yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol a meddyliol y rheini sy'n cymryd rhan. Mae rhedwyr newydd a dibrofiad yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi os byddant yn cael profiad gwael. Dyma pam mae Rhedeg Cymru yn falch o gefnogi ymgyrch sy'n helpu unrhyw un i fwynhau'r holl fanteision y gall ymarfer corff a'r awyr agored eu cynnig."
Ychwanegodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan,
" Mae'n gas gen i'r syniad bod pobl yn rhoi'r gorau i wneud hynny neu'n cael eu bygwth wrth wneud hynny gan bobl sy'n aflonyddu arnynt ac yn eu sarhau.
"Rydym am i bobl fod yn ddiogel a theimlo'n ddiogel. Mae gan bawb hawl i fwynhau ein mannau cyhoeddus heb ofn."
Bydd deunyddiau ymgyrch #YmarferEinRhyddid yn cael eu rhannu ar-lein ac all-lein gan bob un o'r asiantaethau partner, gyda'r nod o addysgu a grymuso cymunedau lleol.