Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn ‘didostur a pheryglus’ wedi cael ei garcharu am ymosodiad gan ddieithryn ar fenyw ifanc yng Nghaerdydd.
Cafodd Craig Walters, sydd hefyd yn defnyddio'r enwau Craig Watts a Craig Whites, ei adnabod gan ddefnyddio System Adnabod Wynebau ar ddelwedd teledu cylch cyfyng a gymerwyd o fws yr oedd wedi teithio arno.
Cafodd y dyn 39 oed ei arestio o fewn 48 awr i'r ymosodiad a mis diwethaf plediodd yn euog i gamgarcharu gyda'r bwriad o gyflawni trosedd rywiol.
Heddiw (dydd Gwener, Chwefror 19) mae wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd, a'i garcharu am oes.
Dywedodd swyddog yn yr achos, Ditectif Gwnstabl Dave Simmons o Adran Ymchwiliadau Troseddol Caerdydd:
“Tua 10.50pm ddydd Sul, Tachwedd 10, 2019, cafodd menyw ifanc ei dilyn oddi ar fws ym Mhontprennau. Wrth iddi gerdded wrth ochr llain las ar Pentwyn Road, gwnaeth dieithryn gydio ynddi o'r tu ôl.
“Ceisiodd ei wthio ymaith a sgrechiodd am help nes i aelod o'r cyhoedd ymyrryd a rhedodd yr unigolyn i ffwrdd.
“Roedd yn rhaid ei fod yn brofiad hollol frawychus.
“Gwnaethom gasglu llawer o ddeunydd fideo teledu cylch cyfyng o'r ardal, gan gynnwys deunydd fideo o'r bws (Bws Caerdydd) roedd wedi bod yn teithio arno, a rhoddodd hyn ddelwedd o'r unigolyn dan amheuaeth a oedd wedi bod yn teithio ar yr un bws.
“Gan ddefnyddio System Adnabod Wynebau Ôl-weithredol ar y ddelwedd teledu cylch cyfyng hon, gwnaethom adnabod yr unigolyn dan amheuaeth fel Craig Walters – rhywun a oedd yn hysbys i'r heddlu.
“Rwy'n sicr y byddem wedi'i ddal yn y pen draw, ond drwy ddefnyddio technoleg adnabod wynebau ôl-weithredol gwnaethom ei ddal yn gyflymach ac o fewn 48 awr roedd yn y ddalfa.”
Ar ôl iddynt arestio Walters, gwnaeth ditectifs barhau i ddadansoddi delweddau teledu cylch cyfyng yn fanwl er mwyn sefydlu'r hyn a ddigwyddodd a oedd yn profi mai Walters oedd yr unig berson yn yr ardal ar y pryd.
Yn gyntaf, roedd yn gwadu ei fod yn gyfrifol ond ym mis Rhagfyr 2020 plediodd yn euog.
Mae DC Dave Simmons wedi talu teyrnged i'r dioddefwr.
“Mae'r hyn a ddigwyddodd wedi cael effaith ddinistriol arni ond mae wedi dangos cymaint o ddewrder drwy'r cyfan ac roedd yn barod iawn i roi tystiolaeth yn y treial,” dywedodd.
“Hoffwn ddiolch hefyd i'r tyst Luke Martin a helpodd ar y noson, oherwydd heb ei ymyrraeth ef rwy'n credu y byddem wedi bod yn delio â digwyddiad hyd yn oed mwy difrifol.
“Fodd bynnag, mae Walters yn unigolyn didostur a pheryglus nad yw wedi dangos unrhyw edifeirwch ac rwy'n credu mai'r unig reswm y plediodd yn euog oedd cryfder y dystiolaeth.
“Rwy'n gobeithio y bydd canlyniad llwyddiannus yr ymchwiliad hwn yn rhoi hyder i ddioddefwyr eraill ddod atom.
“Fel ditectifs rydym yn defnyddio'r holl dechnoleg sydd ar gael i ddwyn troseddwyr o flaen eu gwell, ac mae help a chymorth ar gael i bob dioddefwr.”
Gellir rhoi gwybod am ymosodiadau rhywiol ar 101, neu gellir rhoi gwybod i Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Fel arall, mae help, cyngor a chymorth ar gael o Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) ar 02920 335795.