Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
18:04 15/02/2021
Crynodeb o ddatganiad a gyhoeddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ddydd Llun, 15 Chwefror:
"Mae ymchwilwyr o Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu heddiw (dydd Llun) wedi cyflwyno hysbysiad camymddwyn i un o Swyddogion Heddlu De Cymru fel rhan o'r ymchwiliad i gyswllt yr heddlu â Mohamud Mohamed Hassan cyn ei farwolaeth."
Mae'r hysbysiad camymddwyn yn ymwneud â "methiant, o bosibl, i drosglwyddo gwybodaeth i staff y ddalfa oedd yn gyfrifol am les Mr Hassan".
"Nid yw cyflwyno’r hysbysiad camymddwyn o reidrwydd yn golygu bod swyddog wedi cyflawni unrhyw gamwedd, ond yn hysbysu swyddog bod ymchwiliad yn mynd rhagddo i'w ymddygiad."
--
Mae'r heddlu yn parhau i gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac yn darparu gwybodaeth a deunyddiau, gan gynnwys deunydd fideo camera a wisgir ar y corff a deunydd teledu cylch cyfyng.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi ei chael ar ei deulu, ei ffrindiau a'r gymuned ehangach. Rydym yn parhau i feddwl am ei deulu ac yn cynnig ein cydymdeimlad iddynt.
Mae adroddiad llawn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gael yma: https://www.policeconduct.gov.uk/news/misconduct-notice-served-south-wales-police-officer-part-investigation-police-contact-mohamud