Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd 308 o hysbysiadau cosb benodedig pellach eu cyflwyno yn ne Cymru dros y penwythnos, wrth i nifer bach o bobl barhau i dorri cyfyngiadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru.
Cafodd y mwyafrif helaeth o ddirwyon eu cyflwyno i bobl am gynnull neu gael partïon mewn tai, a gwnaeth patrolau rhagweithiol o barciau poblogaidd, mannau prydferth a chyrchfannau i dwristiaid hefyd arwain at gyflwyno nifer o gosbau am dorri cyfyngiadau teithio.
Ymhlith y dirwyon a gyflwynwyd dros y penwythnos roedd y canlynol:
Cynhaliwyd patrolau gwelededd uchel – llawer ohonynt mewn ymateb i bryderon a godwyd gan drigolion lleol – mewn amrywiaeth o ardaloedd, gan gynnwys Llynnoedd Cosmeston a Marina Penarth. Ym Mhorthcawl, arweiniodd ymgyrch i atal pobl rhag teithio'n ddiangen at gyflwyno 11 o ddirwyon. Hefyd, cafodd taflenni yn atgoffa modurwyr am y cyfyngiadau eu rhoi ar ddwsinau o gerbydau wedi'u parcio. Cafodd car ei atafaelu o dan Adran 165 o'r Ddeddf Traffig Ffyrdd hefyd.
Gwnaed nifer o atgyfeiriadau ar gyfer camau dilynol gan y Timau Gorfodi ar y Cyd, sy'n cynnwys swyddogion yr heddlu a swyddogion y cyngor ac sy'n gweithredu ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd, Andy Valentine:
"Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn parhau i wneud y peth iawn ac yn gwneud aberthau i ddiogelu eu hunain, eu hanwyliaid a'r GIG. Ni allwn fforddio dadwneud yr holl gynnydd a wnaed hyd yma.
"Ni chaiff achosion o'r fath o dorri'r rheolau yn fwriadol eu goddef, a byddwn yn parhau i ymateb i bryderon gan ein cymunedau, cynnal patrolau rhagweithiol a gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol ar y Timau Gorfodi ar y Cyd er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y rheini sy'n torri'r rheolau yn amlwg neu dro ar ôl tro."