Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener (Chwefror 19) na fyddai Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 yn newid llawer yng Nghymru am dair wythnos arall, parhaodd Heddlu De Cymru i ymateb i nifer mawr o achosion o dorri'r rheoliadau y cafodd wybod amdanynt dros y penwythnos.
Rhwng dydd Gwener a dydd Llun, cafodd yr heddlu dros 550 o alwadau yn ymwneud â COVID-19 - cynnydd o 20% o gymharu â'r penwythnos blaenorol - ac er bod gan lawer o'r galwadau y bwriad gorau ond nad oedd yr achosion y cyfeiriwyd atynt yn torri'r rheoliadau, bu'n rhaid i swyddogion gyflwyno 278 o ddirwyon am bartïon, cynulliadau, teithio i Gymru a rhannu ceir.
Ymhlith yr achosion a oedd yn agored i gamau gorfodi am dorri rheoliadau COVID-19 oedd y canlynol:
Mae ymholiadau ôl-ddigwyddiad hefyd yn mynd rhagddynt gyda phartneriaid, gan gynnwys y Timau Gorfodi ar y Cyd, prifysgolion ac awdurdodau lleol, mewn perthynas â nifer o ddigwyddiadau, a chaiff camau ôl-weithredol eu cymryd lle y bo'n angenrheidiol ac yn briodol.
Gwnaeth Prif Uwcharolygydd Andy Valentine, sy'n arwain ymateb Heddlu De Cymru i'r pandemig, ganmol y rheini sy'n parhau i gefnogi'r ymdrech gyfunol i arafu lledaeniad y feirws ac sy'n mynd yn fwyfwy rhwystredig â'r nifer bach o bobl sy'n torri'r rheoliadau.
Ychwanegodd Prif Uwch-arolygydd Valentine:
"Ni chaiff achosion o dorri'r rheolau yn fwriadol eu goddef, a byddwn yn parhau i ymateb i bryderon gan ein cymunedau, cynnal patrolau rhagweithiol a gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol ar y Timau Gorfodi ar y Cyd er mwyn sicrhau ein bod yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y rheini sy'n torri'r rheoliadau yn amlwg neu dro ar ôl tro."