Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:57 13/02/2021
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar yr M4 rhwng cyffordd 34 a 35 y bore yma.
Bu farw'r dyn 34 oed a oedd yn cerdded, ar ôl iddo fod mewn gwrthdrawiad â nifer o gerbydau am tua 5.45am. Mae ei deulu'n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r M4 yn dal i fod ar gau rhwng Cyffordd 33 a Chyffordd 35, ac rydym yn gofyn i bobl sy'n gwneud siwrneiau hanfodol osgoi'r ardal am yr ychydig oriau nesaf.
Dywedodd y Rhingyll Huw O’Connell, o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau: “Mae'n hollbwysig bod unrhyw un a oedd yn teithio rhwng Cyffordd 34 a 35 ar yr M4 rhwng 5.35am a 5.50am y bore ‘ma i'r naill gyfeiriad neu'r llall ac wedi gweld unrhyw beth, yn cysylltu â ni, ni waeth pa mor ddibwys yw.
“Hoffem yn arbennig glywed gan unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal ac sydd â deunydd fideo dashfwrdd o bosibl.”
Gofynnir i unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd i ffonio 101 neu e-bostio [email protected] gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2100051765