Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:23 03/03/2021
Penodwyd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Rachel Bacon fel ein Dirprwy Brif Gwnstabl newydd.
Cadarnhawyd y penodiad ddydd Mawrth yn dilyn proses ddethol.
Dywedodd Jeremy Vaughan, y Prif Gwnstabl:
"Mae'n bleser gennyf gynnig swydd i Rachel fel fy nirprwy ac rwy'n edrych ymlaen at ei chroesawu i Heddlu De Cymru.
"Fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol profiadol yn Heddlu Northumbria, sy'n arwain y Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar iechyd meddwl, rwy'n hyderus y bydd Rachel yn sicrhau bod Heddlu De Cymru yn parhau i ymdrechu i ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau yn y ffordd orau bosibl.”